C2
Gwasanaeth bum awr o hyd ydy C2 a ddarlledir ar BBC Radio Cymru rhwng 8 yr hwyr ac 1 y bore bob nos Lun i nos Wener ers y'i sefydlwyd yn 2001.
C2 | |
Ardal Ddarlledu | Cymru |
---|---|
Dyddiad Cychwyn | 2001 |
Pencadlys | Caerdydd, Bangor |
Perchennog | BBC BBC Cymru |
Gwefan | www.bbc.co.uk/c2 |
Bwriad C2 yw apelio at gynulleidfa iau na gweddill Radio Cymru trwy roi'r Flaenoriaeth i Gerddoriaeth. Mae C2 hefyd yn darlledu Brwydr y Bandiau pob blwyddyn gyda chefnogaeth Mentrau Iaith Cymru.[1] Mae C2 hefyd yn cynnwys bwletinau newyddion, adroddiadau adloniant, adolygiadau rhyngrwyd, golwg wythnosol am chwaraeon a siartiau'r senglau.[2]
Daeth y gwasanaeth i ben mewn enw gyda newidiadau i arlwy Radio Cymru yn Ebrill 2016, er fod rhaglenni wedi eu anelu at gynulleidfa iau yn parhau i'w darlledu rhwng 7 a 10pm bob nos yn ystod yr wythnos.[3]
Ail-lawnsiad Hydref 2007
golyguAr ddydd Llun 8 Hydref 2007, cafodd C2 ei drawsnewid gyda Magi Dodd yn cymryd drosodd y sioe 8 tan 10. Ymunodd cyn-gystadleuwr Big Brother, Glyn Wise a Magi fel cyd-gyflwynydd ar nos Fercher. Symudodd rhagflaenydd Magi, Dafydd Du i raglen newydd hwyr yn darlledu rhwng 11 y nos tan 1 y bore bob noson o'r wythnos gyda sioe newydd amser cinio ar ddydd Sadwrn, (12:30 - 2:00 y prynhawn). Fe ddaeth y ddwy raglen yma i ben yn Medi 2008, mae Dafydd Du nawr yn cyflwyno rhaglen hefo Caryl Parry Jones pob bore wythnos.[4]
Mae Huw Stephens dal ar yr awyr ar dydd Llun a dydd Mawrth am 10 y nos ond mae ei sioe nos Iau wedi dod i ben. Lisa Gwilym sy'n cyflwyno'r rhaglenni un awr ar ddydd Iau a dydd Gwener am 10 y nos, gyda sioe hirach prynhawun Sul (ond nid fel rhan o C2). Mae slot 10 y nos pob dydd Mercher wedi ei neilltuo ar gyfer cyfres nodwedd (gydag ailddarllediad ar nos Sul am 12y.b.).
Cyd-darodd yr ail-lawnsiad gyda ymadewiad Stephen Edwards, Terwyn Davies a Kevin Davies. Mae Jeni Lyn yn parahu i fod yn aelod o dîm C2 fel gohebydd cerddoriaeth ar rhaglen Magi Dodd. Mae hi hefyd yn cyflwyno sioe Magi Dodd ambell i waith pan tydi Magi Dodd ddim ar gael.
Ail-lanswyd y wefan yn ogystal gyda blog newydd cyson gan y cyflwynwyr a'r tim cynhyrchydd.
Newidiadau Medi 2008
golyguAr ôl ymadawiad Dafydd Du, fe ymunodd tri cyflwynydd newydd â C2 i gyflwyno'r slot hwyr (11y.h - 1.y.b): Brychan Llyr ar nos Lun a nos Fawrth, Daniel Glyn ar nos Fercher a Ffion Dafis ar nos Iau a nos Wener.
Ar ddechrau 2009, fe gafodd rhaglen Brychan Llyr (Nos Lun a Nos Fawrth) ei amnewid am raglen Hefin Thomas a fe gafodd Ffion Dafis (Nos Iau a Nos Wener) ei disodli gan Nia Medi.
Newidiadau Medi 2010
golyguAr ddiwedd haf 2010, ymunodd y delynores, Georgia Ruth a chriw c2.
Newidiadau Ebrill 2016
golyguNi ddefnyddiwyd brand C2 bellach ond cyflwynwyd amserlen newydd rhwng 7 a 10 yr hwyr, gyda sioe newydd gan Rhys Mwyn ar nos Lun, sioeau gan Georgia Ruth ar nos Fawrth, Lisa Gwilym ar nos Fercher, Huw Stephens ar nos Iau a Penwythnos Geth a Ger (gyda Gethin Evans a Geraint Iwan) ar nos Wener.
Cyflwynwyr
golygu- Magi Dodd
- Daniel Glyn
- Lisa Gwilym
- Nia Medi
- Huw Stephens
- Hefin Thomas
- Glyn Wise
Cyflwynwyr eraill
golygu- Dylan Ebenezer - Gohebydd chwaraeon (Nos Fawrth gyda Hefin Thomas)
- Elain Edwards - Gohebydd Los Angeles (Nos Lun gyda Magi Dodd)
- Aled Haydn-Jones (BB Aled) - Gohebydd Adloniant (Nos Wener gyda Magi Dodd)
- Jeni Lyn - Gohebydd Cerddoriaeth (Nos Fawrth gyda Magi Dodd)
- Robin Owain Jones - Arbennigwr Gwyliwch y Gofod (Nos Fawrth gyda Magi Dodd)
- Marc Real - Gohebydd ar-lein (Bob mis gyda Daniel Glyn ar Nos Fercher)
- Griff Lynch (Yr Ods) (Nos Lun a Nos Fawrth gyda Magi Dodd)
Tîm Cynhyrchu
golyguCynhyrchwyr
- Huw Meredydd (Caerdydd)
- Sian Alaw Jones (Caerdydd)
- Gareth Iwan Jones (Bangor)
- Dyl Mei (Bangor)
Ymchwilwyr
- Robin Owain Jones (Caerdydd)
- Owain Llyr (Caerdydd)
- Angharad Jones (Bangor)
- Mari Williams (Caerdydd)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Radio Cymru; adalwyd 4 Medi 2013.
- ↑ Gwefan Radio Cymru: y Siartiau. Archifwyd 2013-01-30 yn y Peiriant Wayback Adalwyd 4 Medi 2013.
- ↑ Arlwy newydd Radio Cymru. Golwg360 (17 Mawrth 2016).
- ↑ Gwefan Radio Cymru: Dafydd Du; adalwyd 4 Medi 2013