Pep Le Pew
grŵp hip hop Cymraeg
Band hip hop o Borthmadog oedd Pep Le Pew, aelodau'r grŵp yw Aron Elias, llais, gitâr a gitâr fas; Dyl Mei, synths, allweddellau a samplau; Dave Thomas o Gaerdydd, Ed Holden, MC a scratch DJ, o Amlwch, a Danny Piercy, offerynnau taro. Enwyd y band ar ôl cymeriad cartŵn Warner Brothers, Pepé Le Pew.
Math o gyfrwng | band |
---|---|
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Dod i'r brig | 1999 |
Genre | hip hop |
Yn cynnwys | Aron Elias |
Ystyrir mai Pep Le Pew oedd y grŵp hip hop Cymraeg cyntaf.[1]
Disgograffi
golygu- Y Mwyafrif, sengl, 2001 (Fitamin Un)
- Y Da, Y Drwg Ac Yr Hyll, albym, 2001
- Hiphopcracy/Y Magwraeth, sengl, 2002
- Un Tro Yn Y Gorllewin, albym, 2004 (Slacyr)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Disco Cymraeg. BBC Radio Cymru. Adalwyd ar 7 Medi 2014. "Pep Le Pew oedd y band hip-hop Cymraeg cynta yng ngwir ystyr y gair - hynny yw, lleisiau, dryms, crafu recordiau, gitars, allweddellau a samples i gyd i'w gweld a'u clywed yn fyw o'ch blaenau ar y llwyfan."
Dolenni allanol
golygu- [1] Archifwyd 2006-12-01 yn y Peiriant Wayback Proffil Pep Le Pew ar wefan y BBC
- [2] Cyfweliad y BBC gyda Aron