Y Sŵn
Ffilm Gymraeg yw Y Sŵn, sy'n canolbwyntio ar Gwynfor Evans a'i ymgyrch dros sianel deledu Gymraeg i Gymru.
Enghraifft o'r canlynol | ffilm |
---|---|
Dyddiad cyhoeddi | 2023 |
Cyfarwyddwr | Lee Haven Jones |
Iaith wreiddiol | Cymraeg |
Crynodeb
golyguDaeth Margaret Thatcher yn brif weinidog y Deyrnas Unedig yn 1979 gyda maniffesto oedd yn addo sefydlu sianel deledu Gymraeg.[1]
Ychydig fisoedd wedi'r etholiad cyffredinol, gwnaeth Thatcher dro pedol ar ei haddewid, gan arwain at brotestiadau yng Nghymru. Mewn cyfnod o anufudd-dod sifil yng Nghymru, dywedodd Gwynfor Evans y byddai'n ymprydio nes i Thatcher wireddu ei haddewid i greu sianel deledu Gymraeg, neu hyd at ei farwolaeth.[1]
Dangosiadau
golyguDangoswyd y Sŵn mewn sinemâu yng Nghymru rhwng 10 a 24 Mawrth 2023. Fe'i dangoswyd hefyd yn Finsbury Park Picturehouse ar 13 Mawrth 2023, FACT Liverpool ar 20 Mawrth 2023, sinema'r Storyhouse yng Nghaer ar 23 Mawrth 2023 a HOME ym Manceinion ar 3 Ebrill 2023. Darlledwyd y ffilm ar S4C ar Sul y Pasg 2023, ac mae ar gael i'w wylio ar wasanaeth Clic y sianel[2] yn ogystal ag ar BBC iPlayer.[3]
Cynhaliwyd trafodaeth wedi dangos y ffilm yn y Chapter, Caerdydd, gyda chyfraniadau gan Roger Williams (ysgrifennwr sgrin), Dewi Rhys Williams (sy’n chwarae G. O. Williams yn Y Sŵn), Bethan Sayed (cyn Aelod Senedd Plaid Cymru a Chadeirydd y Pwyllgor Diwylliant), Matthew Hexter (Podlediad Hiraeth), a Ceri Davies (Podlediad Hiraeth).[4]
Arwyddocâd
golyguMeddai’r cynhyrchydd Roger Williams, ““Mae’r ffilm yn olrhain yr hanes o berspectif y cenedlaetholwyr gweision sifil oedd yn y swyddfa Gymreig ar y pryd, a’r gwleidyddion yn San Steffan,”
“Ry’n ni gyd, fel cenedl, yn ymwybodol o safiad Gwynfor. Ond roeddwn i â diddordeb hefyd yn yr hyn a ddigwyddodd yn Llundain, ac yn y Swyddfa Gymreig, achos dw i ddim yn ymwybodol bod yr ochr yna wedi cael ei olrhain o gwbl.
“Roedd diddordeb gyda fi yn y ddadl, a’r dadlau a oedd yn digwydd rhwng Llundain a Chymru. Gan bod rhai o’r sgyrsiau a’r dadleuon yna yn parhau i fod ynglŷn â’r ffordd mae teledu yn cael ei ariannu a’r berthynas rhwng Cymru a Llundain, a’r ffaith bod darlledu ddim wedi cael ei ddatganoli ac yn y blaen. Ro’n i’n teimlo mai’r ffordd orau i ni fel cynulleidfa drafod y pethe hynny oedd drwy ddrama.
“Wrth gwrs, doedd hi ddim wedi cael ei gwneud o’r blaen. Gydag S4C yn dathlu ei phen-blwydd, roedd yn teimlo fel amser priodol i fynd ati.”[5]
Adolygiadau
golyguMae'r ffilm wedi derbyn adolygiad cadarnhaol gan y newyddiadurwr Molly Stubbs o Nation.Cymru.[6]
Rhoddodd newyddiadurwr Buzz Magazine adolygiad cadarnhaol i'r ffilm gyda 4/5 seren.[7]
Rhoddodd newyddiadurwr Get the Chance hefyd adolygiad cadarnhaol i’r ffilm gyda 4/5 seren.[8]
Disgrifiodd Elinor Wyn Reynolds y profiad o wylio'r ffilm fel un "i’w fwynhau" ar y cyfan ond "yn ormod o bwdin" wrth gyfeirio at y pyrotechnics.[9]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Y Sŵn". Film Hub Wales | Canolfan Ffilm Cymru. Cyrchwyd 2023-04-10.
- ↑ "Y Swn | S4C". www.s4c.cymru. Cyrchwyd 2023-04-21.
- ↑ "Y Sŵn review: playful drama about the struggle for S4C". BFI (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-10.
- ↑ "Y Swn (12a)". www.chapter.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-04-10. Cyrchwyd 2023-04-10.
- ↑ "Safiad Gwynfor tros S4C yn y sinemâu". Golwg360. 2022-10-29. Cyrchwyd 2023-04-10.
- ↑ "Film review: Y Sŵn". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2023-03-11. Cyrchwyd 2023-04-10.
- ↑ Buzz (2023-03-07). "Y Sŵn: a frenetic new film recounts fight for Welsh-language TV". Buzz Magazine (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-10.
- ↑ Williams, Gareth (2023-03-16). "Review, Y Sŵn, a Swnllyd/Joio/S4C film, by Gareth Williams". Get The Chance (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-04-10.
- ↑ "Stori'r Sianel – gormod o bwdin? | Barn". barn.cymru. Cyrchwyd 2023-04-21.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Y Sŵn ar wefan Internet Movie Database