Bethan Sayed

gwleidydd Cymreig

Gwleidydd o Gymraes yw Bethan Sayed (ganed 9 Rhagfyr 1981). Bu'n Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru rhwng 2007 a 2021. Ar adeg ei ethol Bethan oedd yr aelod ieuengaf yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Bethan Sayed
Aelod o Senedd Cymru
dros Orllewin De Cymru
Yn ei swydd
3 Mai 2007 – 29 Ebrill 2021
Rhagflaenwyd ganJanet Davies
Manylion personol
Ganwyd (1981-12-09) 9 Rhagfyr 1981 (42 oed)
Aberdâr, Rhondda Cynon Taf
CenedligrwyddBaner Cymru
Plaid wleidyddolPlaid Cymru
Alma materPrifysgol Aberystwyth

Cychwynnodd gyfnod mamolaeth ym mis Mawrth 2020. Ym mis Awst 2020 cyhoeddodd na fyddai yn sefyll fel ymgeisydd yn Etholiad Senedd Cymru, 2021 er mwyn treulio fwy o amser gyda'i mab ifanc. Nododd y byddai wedi gwneud penderfyniad gwahanol os oedd hi'n bosib i Aelod o'r Senedd rannu swydd neu petai fwy o aelodau er mwyn rhannu baich y gwaith.[1]

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Ganwyd Bethan Jenkins yn Aberdâr, yn ferch i'r bardd Mike Jenkins. Mae o dras rhannol Wyddelig gyda'i mam yn dod o Ogledd Iwerddon. Ei brawd yw'r newyddiadurwr, Ciaran Jenkins ac mae ganddi chwaer iau, Niahm. Fe'i magwyd ym Merthyr Tudful lle roedd ei rhieni yn weithgar gyda Mudiad Gwrth Apartheid y 1980au ac 1990au. Aeth i Ysgol Gyfun Rhydfelen ac yna astudiodd Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Cymru, Aberstwyth.

Yr achos gweriniaethol golygu

Mae Bethan yn honni ei bod yn weriniaethwraig o argyhoeddiad ac yn erbyn y cardiau adnabod.

Ar ddechrau Tachwedd 2007, cododd Bethan gwestiwn penderfyniad Undeb Rygbi Cymru i enwi'r dlws ar gyfer gemau rhyngwladol rhwng Cymru a De Affrica yn "Gwpan y Tywysog William". Dywedodd ei bod yn rheitiach enwi'r dlws yn "Gwpan Ray Gravell" er cof am y diweddar chwaraewr rygbi enwog a gwladgarwr twymgalon.

Ym mis Mehefin 2012, aeth Bethan i ddŵr poeth o herwydd sylwadau ar wefan rhwydweithio cymdeithasol Twitter, wedi cwyno am gyfarfod rhwng Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon Martin McGuinness a'r Frenhines Elizabeth II mewn derbyniad elusennol. Ar ôl i Aelodau Llafur Cymru cwyno am y sylwadau, dywedodd Jenkins ei bod hi'n gofidio o gael ei chyhuddo o "geisio ansefydlogi" y broses heddwch, a'i bod hi am roi'r gorau i Twitter am y tro[2]

Yfed a gyrru golygu

Yn ystod oriau gynnar Sul 14 Hydref 2012, cafodd ei arestio gan Heddlu De Cymru yn Llandaf, Caerdydd am yrru'n afreolaidd. Pan gafodd prawf alcohol, cafwyd bod hi fwy na dwywaith y terfyn cyfreithiol.[3] Ar ôl hynny, cyhoeddodd ddatganiad, yn ddweud nad oedd "dim esgusodion" am yr hyn a wnaeth, a bod hi wedi ymddiswyddo fel llefarydd y Blaid ar dreftadaeth, yr iaith Gymraeg a chwaraeon. Dywedodd ei datganiad hefyd ei bod wedi cael cymorth meddygol proffesiynol ar gyfer iselder ysbryd. Ar ddydd Llun 15 Hydref, ataliwyd Bethan o grŵp ACau Plaid Cymru "tra bod y broses gyfiawnder yn cymryd ei gwrs". Ar 12 Tachwedd 2012, cafodd ei gyhuddo o yfed a gyrru, ac ar 19 Rhagfyr cafodd ei wahardd rhag gyrru am 20 mis.[4].

Bywyd personol golygu

Ar ei blog (a oedd yn weithredol hyd at 2013) roedd hi'n disgrifio ei hun fel rhywun sy'n "weithredwr, yn canu'r fiola, caru'r ffilm Amelie, ac yn casau hysbysebion".

Ym mis Mawrth 2018 priododd a Rahil Abbas Sayed yn Lonavala, India[5].

Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhagflaenydd:
Janet Davies
Aelod o'r Senedd dros Orllewin De Cymru
20072021
Olynydd:
Luke Fletcher
Rhagflaenydd:
Laura Anne Jones
Baban y Cynulliad
20072016
Olynydd:
Steffan Lewis

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu