Gwynfor Evans

gwleidydd Cymreig

Roedd Gwynfor Richard ans (1 Medi 191221 Ebrill 2005) yn un o brif wleidyddion Cymru trwy gydol ail hanner yr ugeinfed ganrif, Llywydd Plaid Cymru o 1945 hyd at 1981, a'r cyntaf i gipio sedd yn San Steffan ar ran Plaid Cymru yn is-etholiad Caerfyrddin ym 1966. Mae hefyd yn awdur nifer o gyfrolau hanes a chenedlaetholgar.

Gwynfor Evans
Ganwyd1 Medi 1912 Edit this on Wikidata
y Barri Edit this on Wikidata
Bu farw21 Ebrill 2005 Edit this on Wikidata
Pencarreg Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, llenor, cyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 44ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Cymru Edit this on Wikidata

Ganed Gwynfor Evans yn y Barri, Sir Forgannwg, yn fab i Dan Evans a Catherine Mary Richard ei wraig. Addysgwyd ef yn Ysgol Gynradd Gladstone Road, Y Barri, Ysgol Ramadeg y Barri, Coleg y Brifysgol, Aberystwyth a Choleg Sant Ioan, Rhydychen.

Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn Ysgol Sir y Barri. Yn ddeunaw oed aeth i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth i astudio'r gyfraith ac yna i Brifysgol Rhydychen. Bu yn gweithio mewn swyddfa cyfreithwyr yng Nghaerdydd yn 1939 Roedd erbyn hyn yn heddychwr argyhoeddiedig ac yn aelod o Blaid Cymru. Ym 1939 dewiswyd Gwynfor Evans yn ysgrifennydd mudiad Heddychwyr Cymru, ac ym 1941 etholwyd ef yn is-lywydd Plaid Cymru.

Roedd yn wynebu carchar fel gwrthwynebydd cydwybodol, ond fe roddodd y Tribiwnlys ryddhad diamod iddo. Teimlai Gwynfor na allai barhau i ennill cyflog da fel cyfreithiwr tra roedd ei gyfoeswyr yn ymladd yn y rhyfel. Roedd ei wreiddiau yn Sir Gaerfyrddin, ac felly aeth yn ôl i'r sir a chadw gardd yn tyfu tomatos yn Llangadog.

Ym 1941 ymbriododd â Rhiannon Prys Thomas, un a fu'n gefn cyson iddo drwy gydol ei fywyd cyhoeddus, a bu iddynt bedwar mab a thair merch sef Dafydd, Alcwyn, Meleri, Guto, Meinir, Branwen a Rhys.

Fe'i etholwyd yn Llywydd Plaid Cymru yn 1945, ac fe wnaeth barhau yn llywydd tan 1981. Ymladdodd etholaeth Sir Feirionydd yn etholiad cyffredinol 1945. Yn 1949 fe'i hetholwyd i'r Cyngor Sir a thros y 25 mlynedd nesaf bu'n ymladd amryw i frwydr dros Gymreictod yn aml yng ngwyneb atgasedd mawr yn ei erbyn gan y Blaid Lafur. Ymladdodd etholiadau seneddol yn gyson heb fawr o lwyddiant tan is-etholiad Caerfyrddin yng Ngorffennaf 1966. Roedd y fuddugolaeth hon yn syfrdanol a newidiwyd cwrs hanes Cymru gydag ethol aelod seneddol cyntaf Plaid Cymru i San Steffan.

Collodd ei sedd seneddol yn 1970 ond fe'i ail-etholwyd yn etholiad cyffredinol Hydref 1974 ar ôl colli o dair pleidlais yn etholiad cyffredinol gwanwyn 1974. Fe'i collodd unwaith yn rhagor yn 1979. Safodd yn aflwyddiannus yn 1983. Dywed rhai na ddylai fod wedi sefyll yr etholiad hwn, ond roi lle i ymgeisydd ifanc i ymladd yr etholaeth.

Chwaraeodd Gwynfor Evans ran ganolog yn natblygiad ei blaid fel grym gwleidyddol, a bu'n hollol allweddol ym mhob menter dros genedlaetholdeb Cymreig o'r Ail Ryfel Byd ymlaen. Hyd ddiwedd y ganrif roedd yn ffigwr dylanwadol ym mywyd cyhoeddus Cymru a pharhaodd yn uchel ei barch hyd yn oed ymhlith aelodau o bleidiau gwleidyddol eraill yng Nghymru a gweddill gwledydd Prydain.

Roedd hefyd yn hynod amlwg yn y frwydr i sicrhau pedwaredd sianel a fyddai darlledu'n bennaf yn yr iaith Gymraeg, ac ym 1980 cyhoeddodd ei barodrwydd i ymprydio hyd angau pe bai angen oni chyflawnai'r Llywodraeth ei hymrwymiad i ddarparu'r fath wasanaeth yn unol ag addewid ei faniffesto etholiadol ym 1979. Mewn canlyniad i hynny a phwysau eraill ar lywodraeth y DU, sefydlwyd S4C.

Gwasanaethodd hefyd fel aelod o fyrdd o bwyllgorau a chyrff cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys Cyngor a Llys Llywodraethwyr Prifysgol Cymru, Aberystwyth a Chyngor Darlledu Cymru.

Dyfarnwyd i Gwynfor Evans radd Ll.D. (Cymru) honoris causa ym 1973 a medal Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion ym 1984. Ers blynyddoedd roedd yn byw yn Nhalar Wen, Pencarreg ger Llanybydder, sir Gaerfyrddin, lle bu farw ar 21 Ebrill 2005 yn 92 mlwydd oed.

Ei awr fawr oedd ennill is-etholiad Caerfyrddin yn 1966 er roedd ei fygythiad i ymprydio hyd angau yn unigryw gan iddo orfodi Margaret Thatcher i newid ei meddwl.

Un o ddyfyniadau enwocaf Gwynfor efallai yw: "Mae Prydeindod yn gyfystyr â Seisnigrwydd sy'n ymestyn y diwylliant Seisnig dros yr Albanwyr, y Cymry a'r Gwyddelod."

Dadorchuddiwyd penddelw ohono, y gofeb gyntaf iddo yn nhref ei febyd, yn Llyfrgell y Barri yn 2010 ar ôl ymgyrch gan athrawes ysgol gynradd leol, Gwenno Huws. Y cerflunydd oedd John Meirion Morris o Lanuwchllyn. Yn 2009 cafodd plac glas ei osod ar ei gartref cyntaf yn Somerset Road, Y Barri, gan fudiad "Balchder yn y Barri".

Gwaith llenyddol

golygu

Roedd Gwynfor Evans yn awdur toreithiog. Cyhoeddodd nifer fawr o bamffledi ac erthyglau gwleidyddol eu naws yn y Gymraeg a'r Saesneg sydd yn adlewyrchu ei gred mewn cenedlaetholdeb a heddychiaeth. Ymhlith ei gyfrolau niferus mae Diwedd Prydeindod (1981), (cyfrol sydd yn ddadansoddiad llym o 'Brydeinrwydd' y Cymry), Pe Bai Cymru'n Rhydd (1989) a Fighting for Wales (1990). Cyhoeddodd hefyd hanes cynhwysfawr Cymru yn ei gyfrol Aros Mae (1971), astudiaeth a enillodd cryn fri ac a chyfieithwyd i'r Saesneg dan y teitl Land of My Fathers (1974). Fel hanesydd roedd Evans yn olynydd teilwng i awduron fel Theophilus Evans ac Owen M. Edwards. Roeddent oll yn gwneud defnydd o ymchwil ysgolheigion eraill er mwyn ceisio meithrin yn eu cyd-Gymry falchder yng ngogoniant eu hanes a'u llên. Gweithiau eraill o bwys o'i eiddo yw Seiri Cenedl (1986), cyfrol o fywgraffiadau byrion o Gymry blaenllaw drwy'r oesoedd ynghyd â fersiwn Saesneg, Welsh Nation Builders (1987).

Llyfryddiaeth

golygu

Llyfrau Gwynfor

golygu

Bywgraffiadau

golygu

Dolenni allanol

golygu
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Megan Lloyd George
Aelod Seneddol dros Gaerfyrddin
19661970
Olynydd:
Gwynoro Jones
Rhagflaenydd:
Gwynoro Jones
Aelod Seneddol dros Gaerfyrddin
19741979
Olynydd:
Roger Thomas
Swyddi gwleidyddol pleidiol
Rhagflaenydd:
John Edward Daniel
Llywydd Plaid Cymru
19451981
Olynydd:
Dafydd Wigley