Y Trwynau Coch
band pync Cymraeg a sefydlwyd yn 1977
Band pync/pop-pŵer Cymraeg o Gwm Tawe oedd Y Trwynau Coch.[1]. Daeth y band i amlygrwydd yn y 1970au hwyr gyda cherddoriaeth gyflym ac amrwd gyda agwedd gwrth-sefydliadol.
![]() | |
Enghraifft o: | band ![]() |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1977 ![]() |
Genre | punk music ![]() |
![]() |

Ffurfiwyd y band yn 1977 gan griw o ffrindiau yn Ysgol Gyfun Ystalyfera. Cafodd y band gryn sylw wedi eu cân "Merched Dan 15" ei wahardd rhag cael ei chwarae ar Sain Abertawe. Yn ddiweddarach dywedodd Aled Glynne Davies, DJ ar yr orsaf, mai ei wahardd o ran o safon y gerddoriaeth a wnaeth nid o ran y cynnwys. Er hynny roedd y gwaharddiad yn gymorth i godi proffil y band a dywedir eu bod yn un o'r bandiau Cymraeg cyntaf i ddod at sylw John Peel, DJ ar BBC Radio 1.[2]
- Rhys Harris - llais
- Huw Eirug - gitâr
- Huw Chiswell - allweddellau
- Alun Harris - bas
- Rhodri Williams - gitâr
- Aled Roberts - drymiau (1978-)
- Ian Jones - drymiau (1977)
Disgyddiaeth
golyguSenglau/EP
golyguTeitl | Fformat | Label | Rhif Catalog | Blwyddyn |
---|---|---|---|---|
Merched Dan 15 | EP 7" | Recordiau Sgwar | RSROC 002 | 1978 |
Wastod Ar Y Tu Fas | EP 7" | Recordiau Sgwar | RSROC 003 | 1978 |
Un Sip Arall... | EP 12", feinyl coch | Recordiau Coch | RCTC 1 | 1979 |
Y Trwynau Coch - "Radio Cymru" / Crach, Tanc, Cyffro | Sengl dwbl 7" | Recordiau Coch | RCTC 2 | 1979 |
Y Trwynau Coch - "Methu Dawnsio" / Crach - "Putain Rhad" | 7" | Recordiau Coch | RCTC 3 | 1980 |
Pan Fo Cyrff Yn Cwrdd | EP 7" | Recordiau Sain / Recordiau Coch | SAIN 92S | 1981 |
Albymau a Chasgliadau
golyguTeitl | Fformat | Label | Rhif Catalog | Blwyddyn |
---|---|---|---|---|
Rhedeg Rhag Y Torpidos | Albwm 12" | Recordiau Sain / Recordiau Coch | SAIN-1186M | 1980 |
Y Casgliad | Albwm CD | Recordiau Crai | CRAI CD 046 | 1994 |
Y Trwynau Coch | Albwm 12" | Low Down Kids Records | LDK-LP6 | 2002 |
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Sain - Trwynau Coch. Adalwyd ar 6 Chwefror 2017.
- ↑ Hill, Sarah (2007). 'Blerwytirhwng?' The Place of Welsh Pop Music. Ashgate. ISBN 978-0-7546-5898-6
- ↑ Artistiaid - Y Trwynau Coch. Curiad (22 Medi 2011). Adalwyd ar 6 Chwefror 2017.