Huw Chiswell
Cerddor, actor, cynhyrchydd a cyfarwyddwr Cymreig ydy Huw Chiswell (ganwyd 11 Mai 1961).[1][2]
Huw Chiswell | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Donald Huw Chiswell ![]() 11 Mai 1961 ![]() Abertawe ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, canwr, cynhyrchydd teledu, cyfarwyddwr teledu ![]() |
Bywgraffiad Golygu
Ganwyd yng Nghwm Tawe, a chafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Pant-teg, Ysgol Gyfun Ystalyfera a Phrifysgolion Aberystwyth ac Abertawe.
Gyrfa Golygu
Cerddoriaeth Golygu
Roedd yn aelod o'r bandiau Y Crach a Y Trwynau Coch. Cyfansoddodd y gân elusen i Ethiopia "Dwylo dros y môr" yn 1985.[3] Ym 1984 enillodd gystadleuaeth Cân i Gymru gyda'r gân "Y Cwm", a gyfansoddwyd gan Chiswell a'i chanu gan Geraint Griffiths. Ym mis Tachwedd 2005 cyhoeddwyd cryno-ddisg a llyfr caneuon Goreuon Huw Chiswell. Ar 26 Ionawr 2005 cymerodd ran yng nghyngerdd Tsunami Caerdydd. Yn 2006 bu'n feirniad ar raglen gerddoriaeth Wawffactor ar S4C .
- Roc Ystwyth, Aberystwyth, 1987. Lluniau gan Medwyn Jones
Actio Golygu
Ymddangosiad fel y cymeriad golygus Carlos yn y ffilm Ibiza Ibiza!.
Disgyddiaeth Golygu
Clipiau cerddoriaeth Golygu
Y Cwm | |
Rhywbeth O'i Le | |
Y Gwir |
Dolenni Allanol Golygu
- Gwefan Swyddogol Archifwyd 2017-10-09 yn y Peiriant Wayback.
- Proffil ar wefan y BBC
- Holiadur Wawffactor
Cyfeiriadau Golygu
- ↑ FindTheCompany. findthecompany.co.uk. Adalwyd ar 25 Ionawr 2016.
- ↑ Noson Lawen - Huw Chiswell, S4C; Adalwyd 2015-12-29
- ↑ Bywgraffiad Huw Chiswell; BBC Cymru; Adalwyd 2015-12-29