Tystion
Grŵp hip hop Cymraeg o Gymru oedd Tystion.
Tystion | |
---|---|
Tarddiad | Caerfyrddin, Cymru |
Math o Gerddoriaeth | Hip hop |
Cyfnod perfformio | 1996 | –2002
Label | Fitamin Un, Ankstmusik |
Perff'au eraill | Murry the Hump, MC Mabon |
Cyn-aelodau | |
Steffan Cravos Gruff Meredith Curig Huws Gareth Williams Clancy Pegg Phil Jenkins |
Hanes
golyguYn 1996, daeth MC Sleifar (Steffan Cravos) a G Man (Gruff Meredith) at ei gilydd i ryddhau ychydig o gasetiau. Flwyddyn yn ddiweddarach, rhyddhawyd yr albwm Rhaid i Rhywbeth Ddigwydd ar eu label eu hunain, Fitamin Un. Recordiwyd yr albwm gyda Curig Huws, a fyddai'n mynd ymlaen i fod yn aelod o Murry The Hump. Daeth hyn a'r grŵp i sylw Ankstmusik a ryddhaodd eu hail albwm Shrug Off Ya Complex yn 1999.
Gadawodd Meredith y band i greu cerddoriaeth ei hun dan yr enw MC Mabon. Ymunodd dau aelod newydd gyda Cravos yn y grŵp - y cyd-rapiwr MC Chef (Gareth Williams) a Clancy Pegg ar y bas a'r allweddellau. Rhyddhawyd eu trydydd albym Hen Gelwydd Prydain Newydd a yn 2000 ar Fitamin Un.
Ym mis Awst 2002 cyhoeddodd y grŵp eu bod yn chwalu. Gwnaed y cyhoeddiad gan Steffan Cravos o lwyfan Maes B yn y Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi, a felly hwn oedd eu gig olaf.[1]
Disgyddiaeth
golyguAlbymau
golyguBlwyddyn | Albwm | Label | Gwybodaeth ychwanegol |
---|---|---|---|
1995 | Dyma a'r Dystiolaeth | Fitamin Un | Casét un unig |
1996 | Tystion vs Alffa Un
|
Fitamin Un |
Casét yn unig |
1997 | Rhaid I Rhywbeth Ddigwydd | Fitamin Un |
Albwm cyntaf |
1999 | Shrug Off Ya Complex | Ankstmusik | |
2000 | Hen Gelwydd Prydain Newydd | Ankstmusik |
Senglau
golyguBlwyddyn | Cân | Albwm | Label | Gwybodaeth Ychwanegol |
---|---|---|---|---|
1998 | "Brewer Spinks EP" | Ankstmusik | Sengl yr wythnos yn Melody Maker. | |
1999 | "Shrug EP" | Shrug Off Ya Complex | Ankstmusik | Sengl 12" |
1999 | "Toys EP" | Ankstmusik | Sengl 12" | |
2001 | "Y Meistri EP" | Fitamin Un | ||
2002 | "M. O. M. Y. F. G EP" | Fitamin Un | Ryddhad olaf ar feinyl Adolygiad Archifwyd 2006-11-13 yn y Peiriant Wayback - Fideo |
Cyfeiriadau
golyguDolenni allanol
golygu- Manylion bywgraffyddol Archifwyd 2016-03-03 yn y Peiriant Wayback (gyda chyfieithiad o eiriau caneuon)