Y Weithred (ffilm)
Ffilm Gymraeg yw Y Weithred a seiliwyd ar y llyfr Cysgod Tryweryn gan Owain Williams. Sgriptiwyd y ffilm gan Meic Povey a cyfarwyddwyr y ffilm oedd Richard Lewis.
Enghraifft o'r canlynol | ffilm |
---|---|
Dyddiad cyhoeddi | 1995 |
Iaith wreiddiol | Cymraeg |
Roedd y ffilm yn adrodd hanes yr ymgyrch fomio wrth adeiladu argae Tryweryn yn 1963.[1] Roedd Emyr Llywelyn, John Albert Jones ac Owain Williams yn bwriadu atal y gwaith ar yr argae drwy ddinistrio'r cyflenwad trydan. Llwyddodd y tri i ddinistrio newidydd trydanol drwy ffrwydro bom 2.3 kg, ond fe ddaliwyd Williams wythnos yn ddiweddarach. Ar ddiwrnod ei ddedfrydu llwyddodd y ddau arall i ffrwydro peilon trydan yng Gellilydan ger Trawsfynydd a fe'i arestiwyd hwythau.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Richard Lewis obituary (en) , theguardian.co.uk, 19 Chwefror 2017. Cyrchwyd ar 2 Mai 2019.
- ↑ Tryweryn: 50 years since bombing of reservoir dam (en) , BBC News, 10 Chwefror 2013. Cyrchwyd ar 2 Mai 2019.