Meic Povey

cyfarwyddwr ffilm a aned yn g Nghymru yn 1950

Actor, sgriptiwr a chyfarwyddwr Cymreig oedd Michael "Meic" Povey (28 Tachwedd 19505 Rhagfyr 2017)[1] a chaiff ei ystyried yn un o ddramodwyr mwyaf blaenllaw Cymru.[2][3] Roedd yn un o gyd-grëwyr yr opera sebon Pobol y Cwm ac ysgrifennodd ffilmiau fel Nel, Sul y Blodau a chyfresi drama fel Teulu a Byw Celwydd.[2]

Meic Povey
Ganwyd27 Tachwedd 1950 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw5 Rhagfyr 2017 Edit this on Wikidata
Caerdydd, Ysbyty Athrofaol Cymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor, ysgrifennwr, cyfarwyddwr ffilm, cyfarwyddwr theatr Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Ganwyd Povey yn Nhremadog, y pumed o ddeg o blant. Fe'i magwyd ar fferm anghysbell Gelli Iago ym mhentref Nant Gwynant ger Beddgelert. Aeth i ysgol y pentref gan dderbyn ei addysg gynnar, gyda tua pymtheg o blant eraill, mewn ardal ac ysgol cwbl Gymraeg.[4] Yn 1962, symudodd y teulu i ffermdy Tŷ Cerrig, rhwng pentref Rhos-lan a Garndolbenmaen, Eifionydd. Cychwynodd yn Ysgol Gynradd Garndolbenmaen yn haf 1962 ac aeth ymlaen i ysgol uwchradd Ysgol Eifionydd, Porthmadog. Ni fwynheuodd ei amser yn yr ysgol uwchradd a gadawodd yno'n 15 oed.

Cychwynodd weithio fel clerc iau gyda chwmni cyfreithwyr William George a'i fab pan oedd yn bymtheg oed yn ogystal â gweithio ar benwythnosau yng Ngwesty Plas Gwyn, Pentrefelin. Yn ei arddegau cynnar, daeth o dan adain Gruffydd Ellis Roberts (Guto Robaits), actor a ddaeth yn adnabyddus am chwarae Ephraim yn y gyfres gomedi Fo a Fe. O dan ei hyfforddiant, bu'n adrodd mewn eisteddfodau er nad oedd hynny at ddant Povey. Yn 14 oed cafodd gynnig actio ar lwyfan Cwmni’r Gegin, Cricieth, mewn dramau fel Y Fainc, Esther, Priodas y Tincer a Gwrach y Botel. Drwy'r profiadau yma daeth Povey i sylweddoli bod ei fryd ar fod yn actor a nid cyfreithiwr.

Gyrfa golygu

Yn 1967 cafodd glyweliad gyda Wilbert Lloyd Roberts, cynhyrchydd gyda'r BBC ym Mangor. Nid oedd ei gais i ymuno gyda chriw o actorion proffesiynol y gorfforaeth yn llwyddiannus am nad oedd eto yn 18 mlwydd oed. Flwyddyn yn ddiweddarach, gadawodd Lloyd Roberts y BBC er mwyn sefydlu Cwmni Theatr Cymru, cangen Gymraeg o Theatr Genedlaethol Cymru. Roedd y cwmni yn un o'r cyntaf i gyflogi actorion, dramodwyr a thechnegwyr yn broffesiynol. Cofiodd Lloyd Roberts am Povey a fe'i wahoddwyd i fod yn rhan o'r cynllun hyfforddi cyntaf, gyda'r bwriad o feithrin ei dalent fel dramodydd yn ogystal ac actor.

Felly symudodd Povey i Fangor yn 17 oed ac ar 12 Chwefror 1968, cychwynodd weithio fel llwyfannwr cynorthwyol gyda Cwmni Theatr Cymru.[5] Y ddrama gyntaf iddo weithio arni oedd Tŷ ar y Tywod gan Gwenlyn Parry. Dywed fod Gwenlyn Parry a Wil Sam wedi bod yn ddylanwadau mawr arno yn ddiweddarach yn ei fywyd, yn enwedig o ran deialogi dramâu.[6]

Symudodd i fyw yng Nghaerdydd yn y 1970au a roedd yn bwriadu symud i Fethesda pan gynigiwyd swydd iddo gan y BBC.[7] Felly yn 1974, yn bedair ar hugain oed, aeth i weithio fel golygydd sgriptiau i Pobol y Cwm dan gyfarwyddyd Gwenlyn Parry. Ond bu’n actio ac yn ysgrifennu dramâu’n broffesiynol byth ers ei gyfnod â Chwmni Theatr Cymru a parhaodd i ysgrifennu drwy ei yrfa. Cyhoeddodd Meic Povey nofel fer – Mae’r Sgwâr yn Wag – ym 1975 ond nid yw’n cyfeirio ati’n aml. Dywed ei fod yn credu mai ym 1985, pan ysgrifennodd Sul y Blodau, y dechreuodd ysgrifennu pethau o werth.

Themâu cyffredin sy’n codi yn ei waith yw teulu, gadael cartref a dychwelyd adref wedi cyfnod i ffwrdd, ac yn arbennig, perthynas pobl â’i gilydd. Nodwedd bwysig yn ei waith yw ei fod yn tueddu i ysgrifennu cymeriadau neu ddigwyddiadau tebyg i’r hyn sydd wedi digwydd yn ei fywyd. Yn ei hunangofiant, datgelodd yn aml pwy mae wedi seilio cymeriad penodol arno, ac mae’n nodi rhai (mân) sefyllfaoedd sydd wedi eu dramateiddio yn ei waith. Roedd yn awdur oedd yn barod i feirniadu cymdeithas, ac yn arbennig y gymdeithas Gymreig.

Ymysg ei ddramâu llwyfan mae Perthyn (1987); Wyneb yn Wyneb (1993); Fel Anifail (1995); Yn Debyg Iawn i Ti a Fi (1995); Tair (1998); Diwedd y Byd a Yr Hen Blant (2000); Hen Bobl Mewn Ceir (2006) a Tyner yw’r Lleuad Heno (2010). Roedd hefyd wedi ysgrifennu yn Saesneg – Indian Country (2003) a The Life of Ryan...and Ronnie (2005). Yn ogystal â hyn, bu’n actor adnabyddus yn ystod y 1970au a’r 1980au gan ymddangos mewn nifer o ddramâu Cymraeg, gan gynnwys rhai a ysgrifennodd ei hun, a daeth yn enw adnabyddus ledled Prydain am ei rôl fel Jones y plismon yng nghyfres Minder.

Ei ffilm fwyaf adnabyddus yw Nel (1991). Ffilm oedd hon am wraig sengl, Nel, sydd yn wynebu cael ei symud o’i chartref teuluol i fyngalo yn y dref oherwydd bod ei brawd yn dymuno gwerthu fferm y teulu. Wedi oes gyfan yn byw ar y fferm, mae Nel yn benderfynol o beidio â symud – mae’n bwriadu cymryd gwenwyn i ddiweddu ei bywyd. Daw ei nith i’r fferm am ginio gyda’i theulu o Gaerdydd. O ganlyniad i’r ymweliad hwn daw cyfrinachau a thensiynau i’r amlwg ynhgyd â chymeriad annwyl ac unig Nel. Portrëir hefyd y modd y mae’r nith yn clodfori’r ardal ond eto wedi symud oddi yno ac yn cau ei llygaid i broblemau Nel. Yn arbennig o amlwg yn y ffilm y mae’r feirniadaeth ar iaith a diwylliant y teulu o Gaerdydd, sydd wedi eu ‘heintio’ gan ddylanwadau anglo ac anglo-americanaidd.

Yn 2009 dangoswyd ei ffilm Ryan a Ronnie mewn sinemâu ar draws Cymru gyda’r is-bennawd – ‘Bywyd dau, breuddwyd un’. Darlledwyd hi fel ffilm y Nadolig yn 2009. Addasiad o’r ddrama lwyfan Saesneg oedd hi.

Roedd ei gynyrchiadau teledu’n cynnwys cyfres am isfyd Caerdydd – Dim ond Heddiw (1978); Nos Sadwrn Bach (1981); Aelwyd Gartrefol (1983); Meistres y Chwarae (1983); addasiad o’i ddrama lwyfan Y Cadfridog (1984); Camau Troellog (1984); cyfres ddrama Deryn (1986); Sul y Blodau (1986); drama deledu Saesneg am farwolaeth Babylon Bypassed (1988); Yma i Aros (1989); Yr Ynys (1992); Y Weithred (1995); Talcen Caled (2001); Bob a’i Fam (2002); Teulu (2008); Byw Celwydd (2016).

Ymysg ei ddramâu teledu gorau oedd Sul y Blodau (1986) sy’n olrhain hanes cyrch yr heddlu ar noswyl Sul y Blodau ym 1980 yn erbyn y rhai oedd yn cael eu hamau o losgi tai hâf. Mae ffocws y ddrama ar un o’r teuluoedd sydd dan amheuaeth wrth i’w mab, Geraint, gael ei gymryd i’r ddalfa. Yn y ddrama mae ymateb ei rieni i’w mab cenedlaetholgar yn cael ei gymharu ag ymateb ei frawd, Owain, sy’n byw ac yn gweithio yn Lloegr, ac sy’n dychwelyd adref ar gyfer penwythnos Sul y Blodau, gyda Saesnes i’w ganlyn. Archwilir yma’r tensiynau sy’n codi o fewn teulu a’r rhagrith a geid o fewn cymunedau Cymraeg.

Bywyd personol golygu

Priododd a'i wraig Gwenda yn 1985 ac roedd yn llysdad i ddau o blant, Catrin (a ddaeth yn actores) a Llion.[8] Bu farw Gwenda o ganser yn 2007.[9]

Yn 2010 cyhoeddodd ei hunangofiant, Nesa Peth i Ddim.

Bu farw Meic ar 5 Rhagfyr 2017 yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd ar ôl dioddef o ganser.[10] Cynhaliwyd ei angladd ar bnawn Iau, 14 Rhagfyr yng Nghapel Wenallt, Thornhill ac yna yn Neuadd Eglwys St Catherine's, King's Rd., Pontcanna.[11]

Anrhydeddau golygu

Yn 2005, derbyniodd Gymrodaeth anrhydeddus wrth Goleg Cerdd a Drama Caerdydd.

Gwaith golygu

Dramâu llwyfan golygu

Sgriptiwr ffilm a theledu golygu

Fel actor golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  Cofnod cyfarwyddwr 'Ffilm Pac' o Ty'r Cwmniau. Adalwyd ar 25 Chwefror 2016.
  2. 2.0 2.1 Python star and writer honoured Gwefan y BBC. 1-07-2005. Adalwyd ar 27-04-2010
  3. Meic Povey directs Tyner yw’r Lleuad Heno Wales Online. 9-10-2009. Adalwyd ar 27-04-2010
  4. Meic Povey tours Wales[dolen marw] Daily Post. 25-09-2009. Adalwyd ar 27-04-2010
  5.  Williams, Manon (Hydref 2015). Tri Dramodydd Cyfoes: Meic Povey, Siôn Eirian ac Aled Jones Williams. Adalwyd ar 13 Rhagfyr 2017.
  6. A.M.Davies mewn cyfweliad â Meic Povey, Astudiaeth o ddramâu teledu unigol Meic Povey, Astudiaeth MA ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, (16 Gorffennaf 2007).
  7. Actor playwright Meic Povey tells all (en) , WalesOnline, 7 Awst 2010. Cyrchwyd ar 3 Ebrill 2010.
  8. I've got a man and a house but I'm not about to settle down.. there's too much work out there for me; CATRIN POWELL ON LOVE, ACTING AND HER DREAM JOB. (en) , The Mirror, 30 Mehefin 2001. Cyrchwyd ar 12 Rhagfyr 2017.
  9. (Saesneg) Meic Povey: 1950-2017. The Writers Union (7 Rhagfyr 2017). Adalwyd ar 12 Rhagfyr 2017.
  10. Yr actor a'r dramodydd Meic Povey wedi marw , BBC Cymru Fyw, 5 Rhagfyr 2017.
  11.  Meic Povey. Western Mail (12 Rhagfyr 2017).