Richard Lewis (cynhyrchydd a chyfarwyddwr teledu)

Cyfarwyddwr a chynhyrchydd teledu oedd Haydn Richard Paredur Lewis (193815 Rhagfyr 2016).[1][2]

Richard Lewis
Ganwyd1938 Edit this on Wikidata
Bu farw15 Rhagfyr 2016 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcynhyrchydd teledu Edit this on Wikidata

Magwraeth

golygu

Magwyd yn fab i'r Parch. Haydn Lewis, Ton Pentre, enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhosllannerchrugog 1961 ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Barri 1968. Mynychodd Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Ton Pentre ac yna Coleg y Drindod, Caerfyrddin lle bu'n fyfyriwr ac o dan ddylanwad Norah Isaac.

Yn 1958 bu farw ei unig chwaer, Carol, yn ddisymwth. Cafodd yr ergyd hon effaith fawr ar y Richard ac ar y teulu.

Wedi graddio yn y Drindod, cafodd swydd athro yn dysgu yn Ysgol Uwchradd Tŷ Ddewi, Sir Benfro.

Gadawodd ei swydd fel athro i weithio i adran ffeithiol BBC yng Nghaerdydd. Wedi cyfnod yn gweithio ar raglenni dogfen a newyddion fel 'Heddiw' aeth ymlaen i gynhyrchu a chyfarwyddo cyfresi drama a dramâu unigol. Wedi cyfnod o drideg mlynedd yn y BBC, aeth Richard i weithio i gwmni teledu annibynnol Opus.

Deliodd ei gynhyrchiadau yn ddwys ag hanes Cymru ac hynny yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Ymysg ei gyfresi oedd Y Palmant Aur am hanes teulu o Geredigion yn ymfudo i Lundain i weithio yn y diwydiant llaeth; Dylan (ar Dylan Thomas); Nye (ar Aneurin Bevan); The Extremist (am John Barnard Jenkins, Mudiad Amddiffyn Cymru; The Fasting Girl (am Sarah Jacobs) a Shadowlands (perthynas y bardd, C.S. Lewis a Joy Gresham). Enillodd BAFTA Cymru am ddrama i S4C, Nel.

Cyhoeddi

golygu

Cyhoeddodd Richard hunangofiant Out of the Valley[dolen farw] (Gwasg y Lolfa, 2010)

Roedd yn fab i'r prifardd, L. Haydn Lewis, enillydd y y Goron yn Eisteddfodau Y Rhos 1961 a'r Barri, 1968.

Priododd Richard â Bethan yn 1964. Ganwyd 3 plentyn; Elen, Siôn a Gwenllian. Bu Siôn yn aelod o sawl grŵp pop gan gynnwys Edrych am Jiwlia ac Y Gwefrau. Roedd Gwenllian yn un o brif leiswyr Y Gwefrau. Roedd yn dad-cu i 4 ŵyr a 2 ŵyres.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Former BBC producer and director Richard 'Dic' Lewis dies (en) , BBC Wales, 16 Rhagfyr 2016. Cyrchwyd ar 10 Ionawr 2017.
  2. (Saesneg) Lewis : Obituary. bmdsonline.co.uk (24 Rhagfyr 2016).