Gweriniaeth yr Iseldiroedd
Gweriniaeth ffederal yn y Gwledydd Isel a fodolai o 1588 i 1795 oedd Gweriniaeth yr Iseldiroedd (Iseldireg: Republiek der Nederlanden) neu Weriniaeth Unol Daleithiau yr Iseldiroedd (Republiek der Verenigde Nederlanden), yn swyddogol Gweriniaeth y Saith Iseldir Unedig (Republiek der Zeven Verenigde Nederlanden), a oedd yn cyfateb yn fras i diriogaeth gyfoes yr Iseldiroedd.[1] Hon oedd cenedl-wladwriaeth annibynnol gyntaf yr Iseldirwyr.
Math | gwlad ar un adeg |
---|---|
Prifddinas | Den Haag |
Poblogaeth | 1,880,500 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Wilhelmus van Nassouwe |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Iseldireg |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Gweriniaeth yr Iseldiroedd |
Cyfesurynnau | 52.08°N 4.3°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | States General of the Netherlands |
Arian | Reichsthaler, Dutch guilder |
Sefydlwyd y weriniaeth gan y saith talaith yng ngogledd yr Iseldiroedd Sbaenaidd a wrthryfeloedd yn erbyn tra-arglwyddiaeth Ymerodraeth Sbaen yng Ngwrthryfel yr Iseldiroedd (1566–1648). Ffurfiwyd cynghrair ym 1579 trwy Undeb Utrecht gan arglwyddiaethau Groningen, Friesland, Utrecht, ac Overijssel, iarllaethau Holand a Zeeland, a Dugiaeth Guelders. Datganwyd annibyniaeth ganddynt trwy'r Ddeddf Ymwadiad ym 1581, a ffurfiwyd y ffederasiwn dan arlywyddiaeth stadtholder ym 1588.
Yr 17g oedd Oes Aur yr Iseldiroedd, ac adeiladwyd ymerodraeth drefedigaethol gan forwyr a masnachwyr Iseldiraidd. Dirywiodd grym y weriniaeth yn ystod y 18g, ac ym 1795 cwympodd yn sgil y Chwyldro Batafaidd a fe'i olynwyd gan y Weriniaeth Fatafaidd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Dutch Republic. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 11 Hydref 2021.