Gwiwer goch

(Ailgyfeiriad o Y Wiwer Goch)
Gwiwer goch
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Rodentia
Teulu: Sciuridae
Genws: Sciurus
Rhywogaeth: S. vulgaris
Enw deuenwol
Sciurus vulgaris
Linnaeus, 1758
Dosbarthiad daearyddol

Anifail o drefn y cnofilod (Rodentia) yw'r wiwer goch (Sciurus vulgaris). Mae'n byw ar draws rhannau helaeth o Ewrop a gogledd Asia.

Fideo o'r wiwer goch yn cael ei hail-gyflwyno yng Nghoedwig Clocaenog, Sir ddinbych.

Mae'r Wiwer goch tua 19 – 23 cm i hyd heb y gynffon, sydd tua 15 – 20 cm o hyd; ychydig yn llai na'r Wiwer lwyd. Ar ynysoedd Prydain ac Iwerddon, mae niferoedd y Wiwer goch wedi gostwng yn fawr ers i'r Wiwer lwyd (Sciurus carolinensis) gyrraedd o Ogledd America.

Yng Nghymru, mae Ynys Môn yn parhau i fod yn un o gadarnleoedd y Wiwer goch, ac yn y blynyddoedd diwethaf bu ymgyrch i ddifa'r Wiwer lwyd o'r ynys i roi cyfle i niferoedd y Wiwer goch gynyddu. Ceir hefyd boblogaeth yng Nghoedwig Clocaenog.

Gweler hefyd golygu