Yahya Muhammad Hamid ed-Din
Arweinydd crefyddol a gwleidyddol o Iemen oedd Yahya Muhammad Hamid ed-Din (18 Mehefin 1869 – 17 Chwefror 1948) a deyrnasodd yn imam ar y Deyrnas Mutawakkilaidd (Gogledd Iemen) o 1904 hyd ei farwolaeth.
Yahya Muhammad Hamid ed-Din | |
---|---|
Ganwyd | 18 Mehefin 1869 Sana'a |
Bu farw | 17 Chwefror 1948 Sana'a |
Dinasyddiaeth | Kingdom of Yemen |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | king of Mutawakkilite Kingdom of Yemen, Imam of Yemen |
Tad | Muhammad bin Yahya Hamid ad-Din |
Plant | Ahmad bin Yahya, Q16124624, Saif al-Islam Abdallah, Sayf al-Islam al-Hassan |
Llinach | Rassid dynasty |
Olynodd ei dad yn imam yr enwad Shia Zaidiyyah ym 1904. Arweiniodd gwrthryfel Iemenaidd yn erbyn Ymerodraeth yr Otomaniaid, ac ym 1911 llwyddodd i ennill ymreolaeth dros ei wlad. Yn sgil cwymp yr Otomaniaid wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf, cydnabuwyd Yahya yn arweinydd annibynnol Iemen. Brwydrodd gyda'r Ymerodraeth Brydeinig dros diriogaeth a ffiniau'r wlad. Rheolai tiroedd De Iemen (Aden) gan y Prydeinwyr.[1]
Cafodd Yahya ei lofruddio ym 1948, a'i olynu gan ei fab hynaf Ahmad bin Yahya.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Yaḥyā (imām of Yemen). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 14 Rhagfyr 2017.