Yair Lapid
Gwleidydd a newyddiadurwr o Israel yw Yair Lapid (Hebraeg: יָאִיר לַפִּיד, IPA: [jaˈʔiʁ laˈpid]; ganed 5 Tachwedd 1963) a wasanaethodd yn Brif Weinidog Israel o 1 Gorffennaf i 29 Rhagfyr 2022. Efe yw cadeirydd y blaid Yesh Atid ac Arweinydd yr Wrthblaid yn y Knesset.
Yair Lapid | |
---|---|
Yair Lapid ym Mehefin 2022 | |
Ganwyd | 5 Tachwedd 1963 Tel Aviv |
Man preswyl | Tel Aviv |
Dinasyddiaeth | Israel |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, llenor, gwleidydd, actor, cyflwynydd teledu, golygydd papur newydd, actor ffilm, gohebydd gyda'i farn annibynnol |
Swydd | Aelod o'r Knesset, Minister of Finance, Aelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset, Minister of Foreign Affairs, Israel, Alternate Prime Minister of Israel, Strategic Affairs Minister of Israel, Prif Weinidog Israel, Aelod o'r Knesset, Arweinydd yr Wrthblaid |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | There Is A Future |
Tad | Tommy Lapid |
Mam | Shulamit Lapid |
Priod | Lihi Lapid |
Gwefan | http://www.yairlapid.org.il/ |
Cafodd ei eni a'i fagu yn Tel Aviv, Israel, yn fab i'r nofelydd a dramodydd Shulamit Lapid a'r newyddiadurwr Yosef "Tommy" Lapid. Ymunodd Tommy Lapid â'r blaid seciwlar Shinui ac fe fu'n arwain y blaid honno o 1999 i 2006, ac fe fu'n weinidog cyfiawnder ac yn ddirprwy brif weinidog o 2003 i 2004. Treuliodd Yair y rhan fwyaf o'i wasanaeth milwrol yn Llu Amddiffyn Israel (IDF) yn ohebydd i bapur newydd wythnosol y lluoedd arfog, BaMahane. Ym 1991, dechreuodd ysgrifennu colofn i'r papur newydd dyddiol Maariv (Tel Aviv), a olygwyd gan ei dad. Yn ddiweddarach, cyhoeddwyd ei golofn yn Yedioth Ahronoth, un o brif bapurau newydd y wlad. Yn y cyfnod hwn, gweithiodd Lapid hefyd yn gyfansoddwr caneuon, sgriptiwr, nofelydd, ac actor. Cychwynnodd ar ei yrfa deledu ym 1994 fel cyflwynydd newyddion, ac aeth ati i gyflwyno sawl sioe sgwrs. Yn 2008 fe'i penodwyd yn gyflwynydd y rhaglen newyddion boblogaidd Ulpan Shishi.[1]
Yn 2012, sefydlodd Lapid y blaid ryddfrydol Yesh Atid. Enillodd y blaid 19 o seddi yn y Knesset yn etholiad 2013, ac ymunodd Lapid â'r llywodraeth glymblaid—dan arweiniad y Prif Weinidog Benjamin Netanyahu o Likud—fel gweinidog ariannol. Diswyddwyd Lapid gan Netanyahu yn Rhagfyr 2014.
Yn etholiad Ebrill 2019, ymgynghreiriodd Yesh Atid â Hosen L'Yisrael, dan arweiniad Benny Gantz, i ffurfio Kahol Lavan ("Glas a Gwyn"). Wedi i Likud a Kahol Lavan ennill yr un nifer o seddi, galwyd etholiad newydd ym Medi, ac eto ym Mawrth 2020. Yn ystod pandemig COVID-19, ildiodd Gantz i Netanyahu sefydlu llywodraeth argyfwng, ac holltodd y gynghrair Kahol Lavan.
Yn sgil etholiad Mawrth 2021, Yesh Atid oedd y blaid ail fwyaf yn y Knesset, ac aeth Lapid ati i ffurfio clymblaid gyda'r nod o ddisodli Netanyahu. Ym Mehefin cytunwyd i ffurfio llywodraeth gyda Naftali Bennett, o HaYamin HeHadash, a Lapid yn gwasanaethu yn brif weinidog yn eu tro. Cychwynnodd Lapid yn swydd Dirprwy Brif Weinidog Israel, a Bennett yn brif weinidog, ar 13 Mehefin 2021. Newidiodd y ddau eu swyddi ar 1 Gorffennaf 2022, wedi i Bennett ddatgan nad oedd am ymgyrchu yn yr etholiadau i'w cynnal ar gyfer y Knesset yn Nhachwedd.[2] Yn sgil llwyddiant Likud a'i cynghreiriaid yn etholiad Tachwedd 2022, daeth tymor Lapid i ben erbyn diwedd y flwyddyn, a fe'i olynwyd yn brif weinidog gan Benjamin Netanyahu.[3] Ers hynny, gwasanaetha Lapid yn Arweinydd yr Wrthblaid yn y Knesset.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Yair Lapid. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 25 Medi 2022.
- ↑ (Saesneg) Yolande Knell, "Yair Lapid: The ex-TV host who is Israel's new PM", BBC (30 Mehefin 2022). Adalwyd ar 25 Medi 2022.
- ↑ (Saesneg) Isabel Debre a Josef Federman, "Israel's Netanyahu back in power with hard-line government", ABC News (29 Rhagfyr 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 17 Mai 2023.