Gwleidydd a dyn busnes o Israel yw Natfali Bennett (Hebraeg: נַפְתָּלִי בֶּנֶט, IPA: [naftaˈli ˈbenet]; ganed 25 Mawrth 1972) ac yn Ddirprwy Brif Weinidog Israel ers 1 Gorffennaf 2022, wedi iddo wasanaethu'n 13eg Brif Weinidog Israel o Fehefin 2021 i 2022.

Naftali Bennett
Naftali Bennett ym Mehefin 2021
Ganwyd25 Mawrth 1972 Edit this on Wikidata
Haifa Edit this on Wikidata
Man preswylRa'anana Edit this on Wikidata
DinasyddiaethIsrael, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
AddysgBagloriaeth yn y Gyfraith Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethperson busnes, gwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddarweinydd plaid wleidyddol, Minister of Religious Services, Aelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset, Minister of Defense, Aelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset, Prif Weinidog Israel, prif weithredwr, Aelod o'r Knesset, Education Minister of Israel, Aelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset, Aelod o'r Knesset, Minister of Community Affairs, Minister for National Digital Matters, Alternate Prime Minister of Israel, Minister of Religious Services, Minister of Economy Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Soluto Edit this on Wikidata
Adnabyddus amQ98794736 Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolThe Jewish Home, New Right, Yamina Edit this on Wikidata
PriodGilat Bennett Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Time 100 Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://naftalibennett.co.il/ Edit this on Wikidata
llofnod

Bywyd cynnar a gyrfa fusnes

golygu

Ganed ef yn Haifa, yng ngogledd Israel, i bâr o Americanwyr Iddewig a ymfudodd o San Francisco i'r wlad ym 1967. Bwriodd ei wasanaeth milwrol gyda chyrchluoedd Sayeret Matkal a Maglan yn Llu Amddiffyn Israel yn y 1990au. Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Hebraeg Jeriwsalem tra'n gweithio yn y sector uwch-dechnoleg.[1] Wedi iddo dderbyn ei radd, symudodd Bennett i Efrog Newydd ac yno cyd-sefydlai cwmni meddalwedd gwrth-dwyll o'r enw Cyota ym 1999. Gwerthodd y cwmni am $145 miliwn yn 2005, a dychwelodd i Israel.[2]

Gyrfa wleidyddol

golygu

Cychwynnodd ar ei yrfa wleidyddol yn 2006, pryd cafodd ei benodi'n bennaeth staff gan Benjamin Netanyahu, arweinydd yr wrthblaid Likud yn y Knesset (a fyddai'n Brif Weinidog Israel o 2009 i 2021). Cafodd seibiant o fyd gwleidyddiaeth yn 2009, gan arwain cwmni arall. Yn 2010 fe'i penodwyd yn gyfarwyddwr cyffredinol ar Gyngor Yesha, sydd yn cynrychioli mân-wladfeydd Israelaidd yn y Lan Orllewinol, ac arweiniodd ymgyrch yn erbyn y gwaharddiad ar gymunedau newydd. Bu'n bennaeth ar Gyngor Yesha nes 2012.

Yn niwedd 2012, etholwyd Bennett yn arweinydd ar HaBayit HaYehudi ("Y Gartref Iddewig"), plaid grefyddol-genedlaetholgar a cheidwadol, ar gyfer etholiadau'r Knesset yn Ionawr 2013. Enillodd 12 o seddi seneddol, y blaid bedwaredd fwyaf yn y Knesset. Ymunodd Bennett â llywodraeth glymblaid y Prif Weinidog Netanyahu, a gwasanaethodd mewn sawl swydd yn y cabinet.

Yn Rhagfyr 2018 sefydlwyd HaYamin HeHadash ("Y Dde Newydd") gan Bennett a Ayelet Shaked, gwleidydd arall a oedd unwaith yn ymwneud â busnesau uwch-dechnoleg. Nod y blaid newydd oedd apelio at Iddewon seciwlar a chrefyddol fel ei gilydd gyda pholisïau ceidwadol. Methodd ennill yr un sedd yn y Knesset yn etholiad Ebrill 2019. Diddymwyd y Knesset yn sgil methiant i ffurfio llywodraeth, a sefydlwyd cynghrair o'r enw Yamina ("Tua'r Dde"), dan arweiniad Shaked, i gystadlu yn yr etholiad a alwyd ym Medi 2019. Dychwelodd Bennett i'r Knesset gan ennill sedd ar restr etholiadol Yamina.

Yn sgil etholiad Mawrth 2021 derbyniodd Yair Lapid, arweinydd y blaid ganolaidd Yesh Atid, fandad i ffurfio llywodraeth newydd. Ym Mai, ymunodd Bennett â chlymblaid fawr o bleidiau'r dde a'r chwith yn anelu at ddisodli Netanyahu, a gyhuddwyd o lygredigaeth. Ym Mehefin cytunodd y glymblaid i ffurfio llywodraeth gyda Bennett a Lapid yn gwasanaethu yn brif weinidog yn eu tro. Cychwynnodd Bennett yn y swydd ar 13 Mehefin 2021, a disgwylid iddo ildio'r swydd i Lapid ym Medi 2023.[3] Ar 29 Mehefin 2022, datganodd Bennett nad oedd am ymgyrchu yn yr etholiadau i'w cynnal ar gyfer y Knesset yn Nhachwedd.[4] Trannoeth, gwasanaethodd am y diwrnod olaf yn ei dymor fel prif weinidog cyn ildio'r swydd i Yair Lapid, ac yn ei dro, dechreuodd Bennett yn swydd y dirprwy brif weinidog ar 1 Gorffennaf 2022.

Safbwyntiau Seionaidd

golygu

Yn ystod ymgyrch etholiadol 2013, denodd Bennett sylw am ei gynllun arfaethedig, "y Fenter Sefydlogrwydd", er mwyn datrys y gwrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd. Byddai'r cynllun yn gwrthod datrysiad dwy-wladwriaeth gan gyfeddiannu ardaloedd yr Lan Orllewinol a oedd dan reolaeth dros dro Israel ar y pryd, ac felly yn cadw'r mwyafrif o Balesteiniaid y Lan Orllewinol o fewn clofannau trefol.[2] Mae Bennett yn hoff o gyfeirio at y Lan Orllewinol gan yr hen enw Beiblaidd, Jwdea a Samaria, ac yn mynnu hawl Israel i'r holl Lan Orllewinol, Dwyrain Jeriwsalem, ac Ucheldiroedd Golan. Mewn cyfweliad yn Chwefror 2021, dywedodd Bennett na fyddai'n trosglwyddo'r "un centimedr o diriogaeth Tir Israel" i unrhyw wladwriaeth Balesteinaidd. Fodd bynnag, nid yw'n mynnu hawl Israel i diriogaeth Llain Gaza.[3]

Mae Bennett wedi dadlau o blaid ymateb llym i wrthryfelwyr Palesteinaidd, gan gynnwys y gosb eithaf i derfysgwyr, ac wedi cyhuddo Hamas o fod yn gyfrifol am farwolaethau sifiliaid o ganlyniad i gyrchoedd awyr Israel ar Lain Gaza yn 2018 ac yn 2021.[3]

Bywyd personol

golygu

O ran ei grefydd, mae Bennett yn Iddew Uniongred. Mae'n byw gyda'i wraig Gilat, a'u pedwar plentyn, yn Raanana, ar gyrion Tel Aviv.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Maayan Lubell, "Naftali Bennett: The right-wing millionaire who may end Netanyahu era", Reuters (2 Mehefin 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 23 Gorffennaf 2021.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Naftali Bennett. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Gorffennaf 2021.
  3. 3.0 3.1 3.2 (Saesneg) "Naftali Bennett: The rise of Israel's new PM", BBC (13 Mehefin 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 23 Gorffennaf 2021.
  4. (Saesneg) "Israel's outgoing Prime Minister Naftali Bennett will not run in November election", Middle East Eye (29 Mehefin 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 6 Gorffennaf 2022.