Yann-Fañch Kemener
Roedd Yann-Fañch Kemener (7 Ebrill 1957 – 16 Mawrth 2019) yn ganwr ac yn gasglwr caneuon traddodiadol o Lydaw. Ganed ef yn Sant-Trifin, yn département Aodoù-an-Arvor, Llydaw.[1]
Yann-Fañch Kemener | |
---|---|
Ganwyd | Jean-François Louis Quémener 7 Ebrill 1957 Sant-Brieg |
Bu farw | 16 Mawrth 2019 o canser Tremeven-Kemperle |
Dinasyddiaeth | Llydaw |
Galwedigaeth | canwr, ethnomiwsigolegydd, canwr-gyfansoddwr, llenor, actor llwyfan |
Arddull | canu Llydaweg, cerddoriaeth Lydewig |
Gwobr/au | Urdd y Carlwm, chevalier des Arts et des Lettres |
Gwefan | http://yfkemener.com |
Chwaraeodd ran bwysig yn atgyfodiad y traddodiad canu gwerin Llydaweg, Kan-ha-diskan ('cân a gwrthgan') yn yr 1970au ac 1980au, yn enwedig gydag Erik Marchand. Bu'n casglu caneuon ei hun o draddodiad llafar yr iaith Lydaweg.[2]
Roedd yn berfformiwr a chanwr mynych mewn Festoù Noz ar draws Llydaw.
Bu farw Kemener yn Tremeven-Kemperle, département Penn-ar-Bed, ar 16 Mawrth 2019 yn 61 oed. Dywedodd Maer Tremeven fod ei farwolaeth 'yn golled enfawr i'r byd diwylliannol Llydewig, ac i Lydaw.'
Bywyd
golyguBedyddiwyd Yann-Fañch Kemener yn Jean-François Quémener yn Sant-Trifin sydd yn ardal Kreiz-Breizh ('Craidd Llydaw, hynny yw, canol y wlad). Bu'n gwrando ar dreftadaeth gerddorol Llydaw o oedran ifanc iawn. Trosglwyddwyd y traddodiad iddo drwy linach ei fam o genhedlaeth i genhedlaeth. Roedd ei fam, Maria, yn gantores ac yn ddawnswraig eithriadol a magodd hi ef gyda chariad at y gwerz, math o faled a ysbrydolid gan chwedlau Llydaweg, ac at Kan-ha-diskan, canu dawnsio a cappella. Bu Yann-Fañch yn canu fel rhan o'r teulu i gychwyn ac yn 15 oed dechreuodd berfformio ar y llwyfan, gan deithio trefi a phentrefi Llydaw i boblogeiddio'r repertoire hwn. Yn y 1970au, yn ymwybodol o'r bygythiad i dreftadaeth gerddorol draddodiadol Llydaw, dechreuodd wneud casgliad ethnogerddorol gyda'r henoed er mwyn achub y caneuon cyn iddynt fynd ar ddifancoll.
Roedd ei wybodaeth am repertoire traddodiadol Llydaw a'i lais eithriadol yn agor drysau i wyliau a digwyddiadau rhyngwladol. Yn ystod gyrfa o 45 mlynedd, yn cynnwys deg ar hugain o recordiadau a chant o gyngherddau, poblogeiddiodd Yann-Fañch gerddoriaeth draddodiadol Llydaw ledled y byd. Roedd yn westai rheolaidd yn y llu o wyliau rhyngwladol, ac yn 2005 cymerodd ran yn y 'Noson Geltaidd' yn y Stade de France, Paris o flaen torf o 100,000 o bobl.[3]
Cefnogaeth i'r Iaith a'r Diwylliant Llydaweg
golyguYn ogystal â'i gyfraniad at gerddoriaeth Lydewig, roedd Yann-Fañch yn gefnogol iawn i'r iaith ac ymdrechion i'w hadfer. Cefnogodd y mudiad ysgolion Llydaweg, Diwan, a'r ras flynyddol dros yr iaith Lydaweg, y Redadeg. Darlledodd eiriau o gefnogaeth ac ysbrydoliaeth i redwyr a chefnogwyr Redadeg 2018 pan oedd wedi colli ei wallt yn sgil effeithiau canser.[4]
Marwnad
golyguCyfansoddwyd marwnad i Yann-Fañch Kemener gan y bardd, Aneirin Karadog.[5]
- Canu'r Daith
- A weli di 'i geffyl, dwed,
- a ddaw, a ddaw, cyn ddued
- â brain boreuau Annwfn?
- A glywi di ei lais dwfn
- yn dod i ganu ei dân,
- gwae'r cof, i losgi'r cyfan?
- Llosga Ysgolan gynghanedd
- ein byd a'i gollwng mewn bedd.
- Ai llwch düwch yw'r diwedd?
- Na! Yann-Fañch! Cana a ffo
- o'i afael hyd nes safo
- dy lais yn fflam hyd y wlad
- yn alawon o oleuad.
- Nid mewn lludw mae'n Llydaw;
- ti'r bardd, fe'i llusgaist o'r baw
- a'i chanu yn iach unwaith
- eto. Kenavo, gof iaith
- ceni di amcan dy daith.
Disgograffi
golygu- Chants profonds et sacrés de Bretagne, 1977
- Chants profonds et sacrés de Bretagne 2, 1978
- Chants profonds et sacrés de Bretagne 3, 1982
- Kan ha diskan, 1982, with Marcel Guilloux
- Chants profonds et sacrés de Bretagne 4, 1983
- Chants profonds de Bretagne, 1983
- Dibedibedañchaou, 1987, golygwyd eto gan Dastum yn 1999 (caneuon Llydaweg i blant)
- Gwerziou et soniou, 1988
- Ec'honder, 1989, yn y band, Barzaz
- Chants profonds de Bretagne, 1991
- Un den kozh dall, 1992, yn band, Barzaz
- Roue Gralon Ni Ho Salud , 1993, gyda Anne Auffret
- Chants profanes et sacrés de Bretagne - Roue Gralon ni ho salud, 1993
- Enez eusa, 1995, gyda Didier Squiban
- Ile-exil, 1996, gyda Didier Squiban
- Karnag / Pierre Lumière,, 1996
- Carnet de route, 1996 (casglwyd ymysg yr henoed)
- Kan ha diskan, 1997, gyda Valentine Collecter, Erik Marchand, Marcel Guilloux, Annie Ebrel, Claudine Floc'hig, Patrick Marie, Ifig Troadeg
- Kimiad, 1998, gyda Didier Squiban
- Barzaz Breiz, 1999, gyda La Maîtrise de Bretagne
- An Eur Glaz, 2000, gyda Aldo Ripoche
- An dorn, 2004, gyda Aldo Ripoche
- Dialogues, 2006, gyda Aldo Ripoche a Florence Pavie
- Si je savais voler, chants de Bretagne et d'Occitanie, 2010, avec Laurent Audemard, François Fava and Renat Sette
- Requiem d'Anne de Bretagne, 2011, CD gyda recordiad o Renaissance Requiem, gydag Ensemble Doulce Mémoire a Denis Raisin-Dadre
- YFK~2016, 2016, gyda'r band ba.fnu
- 2008 : Noël en Bretagne, gyda Aldo Ripoche Buda Musique
- 2008 : Bientôt l'été / Tuchant e erruo an hañv, gyda Aldo Ripoche, Florence Rouillard a Ruth Weber Buda Musique
- 2009 Dièse 3
- 2009 : livre Comptines et berceuses de Bretagne
- 2010 : Si je savais voler gyda Laurent Audemard, François Sava a Renet Sette Buda Musique
- 2011 : Vive la liberté gyda Eric Menneteau
- 2012 : Toujours l'hiver / Gouañv Bepred, gyda Damien Cotty, Aldo Ripoche et Hervé Merlin. Buda Musique
- 2013 ar Roue Pri
- 2015 Kan ar Basion, les chants de la Passion
- 2016 YFK~2016, avec groupe ba.fnu
- 2017 Yann-Fañch Kemener trio, Dañs ! gyda Erwann Tobie a Heikki Bourgault
- 2017 Ar Baradoz, chants sacrés de Basse-Bretagne, avec Aldo Ripoche et Florence Rousseau, prix de l’académie Charles-Cros
- 2019 Roudennoù / Traces, hommage à la poésie bretonne, barzhoniezh Breizh.
Digwyddiadau
golygu- 1977 : Euroskol Diwan, 33T
- 1989 : C'hoazh ha Adane, Brazaz Breizh
- 1989 : Les Sources du Barzaz Breiz Aujourd'hui de Donatien Laurent
- 1991 : Kerzh'Ba'n Dañs de Skolvan
- 1991 : La Passion Celtique de Christian Desbordes
- 1991 : An Tri Breur gyda Erik Marchand
- 1993 : Again gydag Alan Stivell
- 1994 : Swing and tears de Skolvan
- 1994 : Héritage des Celtes de Dan Ar Braz
- 1995 : l'Heritage des Celtes en Concert de Dan Ar Braz
- 1995 : La Seule Aventure d'Yvon le Men
- 1996 : Brest 96 de Didier Squiban a An Tour Tan
- 1997 : An Tour Tan live de Didier Squiban a An Tour Tan
- 1997 : La Broella / Finisterres de Dan ar Braz et L'Héritage des Celtes
- 1998 : Le Grand Encrier d'Alain Genty
- 1999 : Skoulad ar Gouroug de Marthe Vassallo
- 1999 : L'Archipel des Musiques Bretonnes cydymaith i lyfr d'Yves Defrance
- 2000 : Autre Chemins tome 1 et 2 de Cœur de Celte
- 2000 : Chenchet n'eus an Amzer de Skolvan
- 2000 : Les Grands Airs Celtiques
- 2004 : Le Petite Lanterne d'Alain Genty
- 2008 : Ar Bisig Kollet cydymaith i lyfr de Natacha
- 2008 : Istorioù Rozenn ha Fanch al Laer de Maryvonne Berthou
- 2011 : Requiem d'Anne de Bretagne d'Antoine de Févin
- 2016 : Participation CD y grŵp Ossian
Dolenni
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=BeWn9u6zUAs
- ↑ Yann-Fañch Kemener - Biographie chronologique von Jérémie Pierre Jouan (http://www.kemener.com/celtic.htm Archifwyd 2002-06-04 yn y Peiriant Wayback)
- ↑ 3.0 3.1 https://www.francemusique.fr/actualite-musicale/yann-fanch-kemener-grande-voix-de-la-musique-bretonne-est-mort-70738
- ↑ https://www.youtube.com/watch?time_continue=131&v=2dv8L8h6ESo
- ↑ https://www.facebook.com/photo.php?fbid=10156022180375718&set=a.387446550717&type=3&theater