Yar Slavutych
Llenor o Wcráin a ymfudodd i Ganada oedd Yar Slavutych (11 Ionawr 1918 – 4 Gorffennaf 2011).[1] Roedd yn un o lenorion trydydd cyfnod llenyddiaeth Wcreineg Canada.
Yar Slavutych | |
---|---|
Ganwyd | Григорій Михайлович Жученко 11 Ionawr 1918 Sir Aleksandriya |
Bu farw | 4 Gorffennaf 2011 Edmonton |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, bardd, cyfieithydd, hanesydd, academydd |
Gwobr/au | Urdd Teilyngdod, Dosbarth lll |
Ganwyd yn Blahodatne yng nghanolbarth yr Wcráin. Bu farw ei daid, ei nain, a'i chwaer ieuangaf yn newyn 1932–33. Wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd, roedd ganddo statws person wedi ei ddadleoli yn yr Almaen, a chafodd ei dderbyn i ymfudo i'r Unol Daleithiau. Astudiodd am radd meistr a doethuriaeth ym Mhrifysgol Pensylfania a symudodd i Monterey, Califfornia, i addysgu yn Ysgol Iaith y Fyddin. Symudodd gyda'i deulu yn ddiweddarach i Edmonton, Alberta, yng Nghanada ac yno bu'n athro yn Adran Ieithoedd Slafonaidd Prifysgol Alberta o 1960 nes iddo ymddeol yn 1988. Roedd yn llenor ac yn ysgolhaig torieithog yn yr Wcreineg a'r Saesneg, ac ymhlith ei weithiau mae'r gyfrol o farddoniaeth Zavojovnyky prerij (1968) a chyfres boblogaidd o werslyfrau Wcreineg.
Bu farw yn Edmonton yn 93 oed.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) "Obituary: Yar Slavutych", Edmonton Journal (9 Gorffennaf 2011). Adalwyd ar 1 Rhagfyr 2018.
Darllen pellach
golygu- Wolodymyr T. Zyla (gol.), Postscript to Posterity: Writings by and about Yar Slavutych (Edmonton: Slavuta, 2003).