Llenyddiaeth Wcreineg Canada

Daeth yr iaith Wcreineg i Ganada yn sgil ymfudiad Wcreiniaid o Ymerodraeth Rwsia ac Awstria-Hwngari yn niwedd y 19g, ac ysgrifennwyd llenyddiaeth yn yr iaith honno yng Nghanada am genedlaethau. Rhennir hanes llenyddiaeth Wcreineg Canada yn dri chyfnod: 1897–1920, 1920–50, a'r cyfnod ers 1950.

Y cyfnod cyntaf (1897–1920) golygu

Ysgrifennwyd y stori fer gyntaf yn Wcreineg yng Nghanada gan Nestor Dmytriw pan oedd yr awdur yn ymweld â Calgary yn 1897. Ysgrifennwyd y gerdd gyntaf yn 1898 gan Ivan Zbura ger Edmonton. Dyma oedd dechrau'r cyfnod cyntaf o lenyddiaeth Wcreineg Canada, a oedd yn dibynnu'n fawr ar lên gwerin yr henwlad. Ymhlith beirdd eraill y peithdiroedd oedd Teodor Fedyk a Daria Mohylianka, a'r goreuon o'r rhyddieithwyr oedd Sava Chernetskyj, Myroslav Stechyshyn, Pavlo Krat, a Vasyl Kudryk. Adlewyrchai'r ysbryd arloesol a'r awydd chwyldroadol yn eu gwaith.[1]

Yr ail gyfnod (1920–50) golygu

Ehangwyd ar themâu a chrefft lenyddol gan feirdd a rhyddieithwyr Wcreineg Canada yn yr ail gyfnod. Ymhlith beirdd y cyfnod hwn mae Ivan Danylchuk, Onufrij Ivakh, a Myroslav Ichnianskyj. Roedd realaeth yn boblogaidd, er enghraifft gan Illia Kyrijak yn ei driawd o nofelau Syny zemli (1939–45). Ysgrifennwyd nofelau, gan gynnwys Bezkhatnyj (1946), a dramâu gan Oleksander Luhovyj, a dramâu gan Semen Kowbel a Dmytro Hunkevych.[1]

Y trydydd cyfnod (1950–presennol) golygu

Daeth y trydydd cyfnod yn sgil dyfodiad ffoaduriaid o'r Undeb Sofietaidd i Ganada wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd. Roedd nifer ohonynt yn Wcreiniaid dosbarth-canol, dysgedig, a ddaethant ag arddulliau newydd megis moderniaeth i lenyddiaeth Wcreineg Canada. Un o feirdd y cyfnod oedd Mykyta Mandryka, cyfansoddwr y gerdd draethiadol Kanada (1961). Bywyd yr Wcreiniaid yn Nhaleithiau'r Paith sydd yn destun i'r nofel Na tverdij zemli (1967) gan Ulas Samchuk a'r gyfrol o farddoniaeth Zavojovnyky prerij (1968) gan Yar Slavutych.[1]

Er i nifer y siaradwyr Wcreineg yng Nghanada ostwng yn ail hanner yr 20g, bu rhywfaint o adfywiad yn llenyddiaeth yn yr iaith. Ymhlith beirdd y cyfnod hwn mae Volodymyr Skorupskyj, Larysa Murovych, y telynegwyr Borys Oleksandriv, Bohdan Mazepa, Vira Vorsklo, Svitlana Kuzmenko, a Teodor Matvijenko, y beirdd gwladgarol Levko Romen, Dan Mur, ac Oleksa Hay-Holowko, y symbolydd Oleh Zujewskyj, a'r modernwyr Iryna Makaryk, Maria Revakovych, Marco Carynnyk, Danylo Struk, ac Oleksander Olijnyk. Cyhoeddwyd ffuglen gan Fedir Odrach, Ivan Bodnarchuk, ac Oleksander Smotrych, a dramâu gan Mykola Kovshun. Cyfieithwyd gweithiau o'r Wcreineg i'r Saesneg gan Orysia Prokopiw ac i'r Ffrangeg gan René Coulet du Gard.[1]

Ysgolheictod llenyddol golygu

Yn ail hanner yr 20g datblygodd awyrgylch proffesiynol ymhlith llenorion Wcreineg Canada, a sefydlwyd cymdeithas lenyddol ganddynt. Cyhoeddwyd wyth cyfrol o'r almanac Slovo (1970–87) a'r flodeugerdd Antolohija ukrajins'koji poeziji v Kanadi, 1898-1973 (1975). Almanac arall, a gyhoeddwyd pum cyfrol ohono, oedd Pivnichne siajvo (1964–71). Cyhoeddwyd ysgolheictod llenyddol Wcreineg ym mhedair cyfrol y Studia Ucrainica (1978–87), a chynhwysir cyfieithiadau yn y llyfr Ukrainian Shakespeariana in the West (1987).[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 (Saesneg) "Ukrainian Writing", The Canadian Encyclopedia. Adalwyd ar 1 Rhagfyr 2018.

Darllen pellach golygu

  • M. Mandryka, History of Ukrainian Literature in Canada (1968).
  • Yar Slavutych, An Annotated Bibliography of Ukrainian Literature in Canada, 1908-1986 (1987).