Yasmina Reza

cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr ffilm ac actores a aned yn Mharis yn 1959

Llenor benywaidd o Ffrainc yw Yasmina Reza (ganwyd 1 Mai 1959) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel actor, ieithydd, cyfieithydd, dramodydd a nofelydd. Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: Art (1994), Une Désolation (2001) a Le Dieu du carnage (2006). Roedd llawer o'i dramâu dychanol byr yn adlewyrchu materion dosbarth canol cyfoes.

Yasmina Reza
Ganwyd1 Mai 1959 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Ffrainc Ffrainc
Alma mater
  • Prifysgol Gorllewin Paris, Nanterre La Défense
  • Prifysgol Paris
  • L'École Internationale de Théâtre Jacques Lecoq Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, ieithydd, cyfieithydd, dramodydd, nofelydd, llenor, sgriptiwr, actor llwyfan, actor ffilm, cyfarwyddwr ffilm Edit this on Wikidata
Adnabyddus amDesolation Edit this on Wikidata
Arddulldrama Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Urdd Teilyngdod Cenedlaethol, Prif Wobr y Theatr, prix littéraire du Monde, Jonathan Swift Award, Prix de l’Académie de Berlin, Prix mondial Cino Del Duca Edit this on Wikidata

Cafodd ei geni ym Mharis ac wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Gorllewin Paris a Nanterre La Défense.[1][2][3][4]

Roedd tad Reza yn beiriannydd Iddewig, yn ddyn busnes ac yn bianydd ac roedd ei mam yn feiolinydd Hwngaraidd-Iddewig o Budapest.

Yr awdur

golygu

Ar ddechrau ei gyrfa, actiodd Reza mewn sawl drama newydd yn ogystal â dramâu gan Molière a Marivaux.

Yn 1987 ysgrifennodd Sgyrsiau ar ôl Claddedigaeth, a enillodd Wobr Molière, am yr Awdur Gorau. Cafodd y ddrama ei pherfformio am y tro cyntaf yng Ngogledd America yn Chwefror 2013 yn theatr Players By The Sea yn Jacksonville Beach Florida. Y cyfarwyddwyr oedd Holly Gutshall a Joe Schwarz, gydag Anne Roberts yn cynlluniydd golygfeydd. Ymhlith cast cyntaf yn yr Unol Daleithiau roedd Kevin Bodge, Paul Carelli, Karen Overstreet, Dave Gowan, Holly Gutshall ac Olivia Gowan Snell. Cyfieithodd Reza fersiwn lwyfan Polanski o Metamorphosis Kafka ar ddiwedd y 1980au. [5]

Ym 1994, ymddangosodd Art am y tro cyntaf ym Mharis ac enillodd Wobr Molière am yr Awdur Gorau. Ers hynny mae'r ddrama wedi cael ei chynhyrchu ledled y byd a'i chyfieithu a'i berfformio mewn dros 30 o ieithoedd. Derbyniodd cynhyrchiad Llundain, a gynhyrchwyd gan David Pugh a Dafydd Rogers, Wobr Laurence Olivier a Gwobr yr Evening Standard 1996–97. Enillodd Wobr Tony am y Ddrama Gorau hefyd. Mae Bywyd X 3 hefyd wedi'i chynhyrchu yn Ewrop, Gogledd America ac Awstralia. Trodd ei llaw at sgwennu sgriptiau hefyd, gan gynnwys Welai Di Fory, gyda Jeanne Moreau yn serennu a'i chyfarwyddo gan Didier Martiny, partner Reier ar y pryd.

Ym Medi 1997, cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Hammerklavier, a chyhoeddwyd gwaith ffuglen arall, Une Désolation, yn 2001. Cafodd ei gwaith L'Aube le Soir ou la Nuit (2007), a ysgrifennwyd yn dilyn ymgyrch Nicolas Sarkozy, gryn sylw yn Ffrainc.[6]

Gweithiau

golygu
Nodir cyfieithiadau saesneg yn yr iaith honno, os nad ydynt ar gael yn y Gymraeg.

Dramâu

golygu
  • Conversations après un enterrement (Sgyrsiau Wedi'r Gladdedigaeth), 1987
  • La Traversée de l'hiver (Taith y Gaeaf), 1989
  • 'Art' (Art), 1994
  • L'Homme du hasard (The Unexpected Man), 1995
  • Trois versions de la vie (Life X 3), 2000
  • Une pièce espagnole (Drama Sbaenaidd), 2004
  • Le Dieu du Carnage, 2006 (God of Carnage)
  • Bella figura, 2015

Nofelau

golygu
  • Hammerklavier, 1997
  • Une désolation (Desolation), 1999
  • Adam Haberberg, 2003
  • Nulle part, 2005
  • Dans la luge d'Arthur Schopenhauer (Ar Slej Arthur Schopenhauer), 2005
  • L'Aube le soir ou la nuit, 2007
  • Heureux les heureux (Hapus y Rhai Hapus), 2013
  • Babylone, 2016

Sgriptiau-sgrin

golygu
  • Jusqu'à la nuit, (Till Night) 1983 (roedd hefyd yn actores yn y ddrama hon)
  • Le pique-nique de Lulu Kreutz (Lulu Kreutz's picnic), 2000
  • Carnage, 2011

Fel actores

golygu
  • Que les gros salaires lèvent le doigt ! (Gadewch i'r Cathod Tewion Godi Bys!) 1982
  • À demain (Tan Yfory), 1991
  • Loin (Faraway), 2001

Anrhydeddau

golygu
  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Marchog Urdd Teilyngdod Cenedlaethol, Prif Wobr y Theatr, prix littéraire du Monde (2013), Jonathan Swift Award (2020), Prix de l’Académie de Berlin (2022), Prix mondial Cino Del Duca (2024)[7][8][9] .


Cyfeiriadau

golygu
  1. Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 17 Gorffennaf 2024.
  3. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 13 Hydref 2015. "Yasmina Reza". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Yasmina Reza". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Yasmina Reza". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Yasmina Reza". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Yasmina Reza". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Yasmina Reza". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Yasmina Reza". "Yasmina Reza". "Yasmina Reza". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  4. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 13 Rhagfyr 2014
  5. Anrhydeddau: http://www.lalettredulibraire.com/Palmar%C3%A8s-du-Prix-litt%C3%A9raire-le-Monde. https://jonathan-swift-preis.ch/verleihung20.html. dyddiad cyrchiad: 25 Tachwedd 2021. "Yasmina Reza, lauréate du prestigieux Prix mondial Cino Del Duca" (yn Ffrangeg). Cyrchwyd 21 Mai 2024.
  6. Elaine Sciolino, Portrait of President, Craving Power, Enthralls France, New York Times, 24 Awst 2007
  7. http://www.lalettredulibraire.com/Palmar%C3%A8s-du-Prix-litt%C3%A9raire-le-Monde.
  8. https://jonathan-swift-preis.ch/verleihung20.html. dyddiad cyrchiad: 25 Tachwedd 2021.
  9. "Yasmina Reza, lauréate du prestigieux Prix mondial Cino Del Duca" (yn Ffrangeg). Cyrchwyd 21 Mai 2024.