Yidishes Tageblat
Papur newydd Iddew-Almaeneg a gyhoeddwyd yn Efrog Newydd oedd Yidishes Tageblat (יידישעס טאגעבלאט). Sefydlwyd yn 1885 gan K. H. Sarasohn, a'r golygydd cyntaf oedd M. Jalomstein. O 1894 i 1928, fe'i argraffwyd pob dydd, ac eithrio'r Sadwrn, a dyma felly oedd y papur newydd dyddiol cyntaf yn y byd yn Iddew-Almaeneg. Dan olygyddiaeth Johann Paley, o 1892 ymlaen, daeth Yidishes Tageblat yn hynod o ddylanwadol yng nghymuned Iddewig Efrog Newydd ac yn llais dros draddodiadau Uniongred ac yn hyrwyddo llên a diwylliant drwy gyfrwng yr Iddew-Almaeneg. Safbwynt gwrth-sosialaidd oedd gan yr erthygl olygyddol, a liniarwyd yn ddiweddarach yn ystod yr oes flaengar yng ngwleidyddiaeth yr Unol Daleithiau. Cafodd y papur gylchrediad o 30,000 yn 1900 a 70,000 yn 1913. Yn 1928 cafodd ei gyfuno â Der Morgen Zshurnal.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) "Yidishes Tageblat " yn Encyclopaedia Judaica. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 8 Rhagfyr 2019.