Ymarfer anerobig
Ymarfer anerobig yw ymarfer corff sydd yn ddigon dwys i achosi lactad i'w ffurfio. Mae'r system yma yn effeithiol iawn ar gyfer ymarfer corff dwys, sef llai na 2 funud.[1]
Math | Ymarfer corff |
---|
Mae dau fath o systemau egni anaerobig:
System anaerobig creatin ffosffad (CP) sydd yn cyflenwi egni’n gyflymach na phob system egni arall. Nid yw’n gallu cyflenwi egni am fwy na rhyw ddeg eiliad felly dim ond mewn cyfangiadau dwysedd uchel, ffrwydrol fel gwibio 100 metr neu daflu maen mae’n cael ei defnyddio.
System anaerobig asid lactig sydd yn cael ei defnyddio pan fydd y system CP wedi dod i ben. Nid yw’n cynhyrchu egni mor gyflym â’r system CP ac mae’n cynhyrchu’r rhan fwyaf o’r egni sydd ei angen ar gyfer gweithgareddau dwysedd uchel am ryw 1-2 munud e.e. rhedeg 400 metr.
Mae’r systemau ymarfer corff anaerobig yn aneffeithlon ac yn defnyddio egni’n gyflym. Mae’r diffyg defnydd o ocsigen a chrynhoad asid lactig yn achosi blinder. Mae angen ocsigen i’w hadfer sy’n achosi’r unigolyn i anadlu’n drwm ar ôl gorffen yr ymarfer corff - yr enw ar hyn yw ad-dalu’r ddyled ocsigen.[2]
Gweler Hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Medbo, JI; Mohn, AC; Tabata, I; Bahr, R; Vaage, O; Sejersted, OM (January 1988). "Anaerobic capacity determined by maximal accumulated O2 deficit". Journal of Applied Physiology 64 (1): 50–60. http://jap.physiology.org/content/64/1/50.abstract. Adalwyd 14 May 2011.
- ↑ "Ffisoleg ymarfer corff, pennod 2" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 2017. Check date values in:
|access-date=
(help)