Ymlediad aortaidd abdomenol
Ymlediad aortaidd abdomenol (AAA neu A triphlyg) yw ehangiad penodol o'r aorta abdomen lle bo'i ddiamedr yn fwy na 3 cm neu 50% yn ehangach na'i ddiamedr arferol. Fel arfer nid yw'n achosi unrhyw sgîl-effeithiau difrifol, ac eithrio achosion lle mae'n rhwygo. Weithiau, gellir arwain at boendod yn yr abdomen, y cefn, neu goesau. Yn achlysurol mae'n achosi aneurysmau mawr, sydd i'w teimlo os mae unigolyn yn gwthio'r abdomen. Gall rhwyg neu doriad arwain at boen yn yr abdomen neu'r cefn, pwysau gwaed isel, anymwybyddiaeth, ac yn aml achosir marwolaeth.[1]
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | ymlediad aortaidd, clefyd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae AAA yn fwyaf cyffredin ymysg dynion dros 50 mlwydd oed ac ymhlith y rhai hynny sydd â hanes teuluol o'r cyflwr. Yn ogystal, ceir ffactorau risg ychwanegol, gan gynnwys ysmygu, pwysedd gwaed uchel, a chlefydau eraill yn effeithio'r galon neu'r gwaed. Mae cyflyrau genetig risg uchel ychwanegol yn cynnwys syndrom Marfan a syndrom Ehlers-Danlos. AAA yw'r ffurf fwyaf cyffredin o ymlediad aortaidd. Mae oddeutu 85% o achosion yn effeithio islaw'r arennau, gyda'r gweddill naill ai ar yr un lefel a'r arennau neu uwchben yr arennau. Yn yr Unol Daleithiau, argymhellir sgrinio uwchsain i ddynion rhwng 65 a 75 mlwydd oed gyda hanes ysmygu.[2] Yn y Deyrnas Unedig, argymhellir sgrinio pob dyn sydd dros 65 oed. Unwaith y darganfyddir aneurysm, yn fwy aml na pheidio, caiff uwchseiniau pellach eu cynnal yn rheolaidd.
Un o'r ffyrdd gorau i osgoi'r clefyd yw peidio ag ysmygu. Gellir defnyddio dulliau ataliol eraill gan gynnwys trin pwysedd gwaed uchel, trin colesterol uchel a chadw o fewn pwysau synhwyrol. Pan fydd diamedr AAA yn tyfu i> 5.5 cm mewn dynion a> 5.0 cm mewn menywod, fel arfer argymhellir llawdriniaeth i'r claf. Mae rhesymau eraill dros atgyweirio'n cynnwys presenoldeb symptomau penodol a chynnydd cyflym ym maint (mwy nag un centimedr y flwyddyn). Gellir trwisio aneurysm naill ai drwy lawdriniaeth agored neu atgyweiriad aneurysm endofasgwlaidd (EVAR). Wrth gymharu â phroses llawdriniaeth agored, ceir risg is o farwolaeth yn achos EVAR, yn y tymor byr, ynghyd â chyfnod byrrach yn yr ysbyty, serch hynny nid yw'n bosib ym mhob achos. Ni ymddengys gwahaniaeth yn y canlyniadau hir dymor. Yn achos EVAR mae angen mwy am weithdrefnau ailadroddus.[3]
Effeithia AAA rhwng 2 ac 8% o ddynion dros 65 oed. Mae'r cyfraddau ymhlith menywod chwarter mor uchel. Ymhlith yr anwras hynny sy'n mesur llai na 5.5 cm, y mae o dan 1% yn rhwygo o fewn cyfnod o flwyddyn. Oddeutu 10% sy'n torri mewn achosion yn mesur rhwng 5.5 a 7 cm, tra bo'r risg yn 33% yn achosion dros 7 cm. Os rhwyga'r anwras, y mae'r gyfradd marw rhwng 85% a 90%. Yn ystod 2013, achosodd ymlediad aortaidd 168,200 o farwolaethau, cynnydd o'r 100,000 a fu ym 1990. Yn yr Unol Daleithiau, arweiniodd AAA at rhwng 10,000 a 18,000 o farwolaethau yn 2009.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Abdominal emergencies in the geriatric patient.". International journal of emergency medicine 7 (1): 43. 2014. doi:10.1186/s12245-014-0043-2. PMC 4306086. PMID 25635203. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4306086.
- ↑ LeFevre ML (19 Awst 2014). "Screening for abdominal aortic aneurysm: U.S. Preventive Services Task Force recommendation statement.". Annals of Internal Medicine 161 (4): 281–90. doi:10.7326/m14-1204. PMID 24957320.
- ↑ "Endovascular aneurysm repair (EVAR) follow-up imaging: the assessment and treatment of common postoperative complications.". Clinical radiology 70 (2): 183–196. Chwefror 2015. doi:10.1016/j.crad.2014.09.010. PMID 25443774.
- ↑ "Aortic Aneurysm Fact Sheet". cdc.gov. 22 Gorffennaf 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Chwefror 2015. Cyrchwyd 3 Chwefror 2015. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help)