Yn y Gwaed

llyfr
(Ailgyfeiriad oddi wrth Yn Y Gwaed)

Nofel gan yr awdur Geraint V. Jones ac a gyhoeddwyd ym 1990 ydy Yn Y Gwaed. Enillodd y nofel Wobr Goffa Daniel Owen ym 1990 a chafodd ei chyhoeddi gan Lys yr Eisteddfod Genedlaethol. Ail-argraffwyd y llyfr yn 2010. Mae'r nofel bellach yn lyfr gosod ar gwrs Cymraeg TGAU.

Clawr Yn Y Gwaed.jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
AwdurGeraint V. Jones
CyhoeddwrGwasg Gomer
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
PwncLlosgach, euogrwydd a chosb, cyfrinachau, gwallgofrwydd, dirywiad
ISBN1848512023 (argraffiad 1990)
978-1848512023 (argraffiad 2010)

Adrodda'r nofel hanes teulu fferm Arllechwedd yng Ngogledd Cymru yn ystod y 1980au, lle triga'r prif gymeriadau sef Mam, a'i phlant "Fo", Robin a Mared.

PlotGolygu

Dechreua'r nofel wrth i Robin gael hunllef yn llawn elfennau tywyll a sinistr. Caiff ei ddeffro gan ei fam a'i chwaer. Er eu bod yn frawd a chwaer, ceir awgrymiadau cyson o'r bennod gyntaf fod atyniad rhywiol rhwng Robin a Mared. Treulia Robin ei ddiwrnodau yn gweithio ar y fferm, er gwaethaf y boen parhaus mae'n teimlo yn ei gylla.

Dysgwn wrth i'r nofel fynd yn ei blaen fod Robin a Mared yn ffrwyth perthynas a gafodd eu Mam gyda Dewyrth Ifan, sef brawd ei thad a pherchennog gwreiddiol Arllechwedd. Symudodd Mam i fyw yn Arllechwedd pan oedd yn un ar bymtheg oed ac o ganlyniad mae'n amddiffynnol iawn o'r atgofion o Dewyrth Ifan. Dysgwn hefyd eu bod wedi cael plentyn arall, Fo, ond fod ganddo ef broblemau â'i iechyd. O ganlyniad, caiff ei gadw yn y llofft stabal ddydd a nos. Ceir cyfeiriadau cyson yn y nofel at fewnlifiad i gefn gwlad Cymru a'r awyrlu'n hedfan yn isel dros ardaloedd amaethyddol.

CrynodebGolygu

Mae’r llyfr yn agor gyda disgrifiad o un o hunllefau Robin ac mae gweddill Pennod 1 yn disgrifio’r diwrnod trannoeth. Cawn ein cyflwyno nid yn unig i Robin ond hefyd i aelodau eraill o deulu Arllechwedd, sef ei chwaer Mared a Mam, wrth iddyntfynd o gwmpas eu gwaith ar y fferm. Mae cymydog, sef Harri Llwyn-crwn, yn galw heibio ar ei ffordd o’r ffair galan gaeaf yn Hirfryn. Yn y penodau cyntaf hyn hefyd mae’r cyfeiriadau cyntaf at Fo yn y llofft stabl – ac at Dewyrth Ifan a arferai ffermio yn Arllechwedd, gydag awgrym cryf iawn mai ef yw tad Mared a Robin. Trwy lygaid Robin disgrifir yr olygfa o’r Cwm a geir o’r fferm ac mae Robin yn sylwi ar y bobl newydd sy’n byw yn fferm gyfagos Dôl-haidd yn cerdded i lawr am yr afon yng ngwaelod y Cwm. Mae Fo yn dychryn pawb o’r teulu wrth ddianc o’r llofft stabl wedi i Mared anghofio cloi’r drws. Mae Robin yn cael hunllef arall. Dywed Mared wrth ei mam ei bod wedi gweld ysbryd Dewyrth Ifan a hynny am y trydydd tro; cyn diwedd Pennod 3 mae’n cofnodi yn ei dyddiadur ei bod hi wedi gweld yr ysbryd unwaith eto. Daw mecanic o’r enwJeff – Sais sydd wedi symud i’r ardal – i Arllechwedd i weld tractor sydd wedi torri. Mae Mared ac yntau yn cymryd diddordeb yn ei gilydd.

Dair wythnos yn ddiweddarach dawJeff yn ôl i Arllechwedd o’r diwedd gyda darn newydd ar gyfer y tractor. Daw’n amlwg ei fod yn briod gyda dau o blant, ond mae’n fflyrtio’n agored gyda Mared. Mae Mared yn cael breuddwyd braf am garu gyda Harri Llwyn-crwn/Jeff ond mae’r freuddwyd yn troi’n hunllef am Robin a Mam, ac yna wedi iddi ddeffro mae’n gweld ysbryd Dewyrth Ifan eto – y tro hwn mae i mewn yn ei gwely. Y noson ganlynol mae hi’n gweld yr ysbryd unwaith yn rhagor, y tro hwn yn y llofft stabl yn codi ofn ar Fo.

Yn y cyfamser penderfyna Robin ei fod am werthu’r gwartheg godro ac er mawr syndod iddo ef a Mared mae Mam yn cytuno iddo wneud hynny a phrynu bustych yn eu lle. Yn ystod y penodau hyn hefyd mae Robin yn sylwi bod rhyw weithgaredd peirianyddol yn mynd ymlaen wrth yr afon, yr ochr isaf i bentref Rhyd-y-gro. Un diwrnod, wrth hel y defaid o’r mynydd gyda’i fam, mae’r ddau’n sylwi bod peiriannau’n tyrchu’r tir ar ddwy lan yr afon, ar dir ffermydd Dôl-haidd a Chae’rperson. Yr un diwrnod, tra mae Mam a Robin i ffwrdd, dawJeff i Arllechwedd eto i weithio ar y tractor, gan wahodd ei hun i’r tŷ am baned gyda Mared.

Drannoeth, a hithau’n ganol Rhagfyr erbyn hyn, mae Robin yn mynd â’r gwartheg godro i’r farchnad yn Hirfryn i’w gwerthu a phrynu bustych yn eu lle. Wrth deithio trwy Ryd-y-gro caiff olwg agosach ar y datblygiadau ar ddwy lan yr afon. Mae arwydd mawr newydd yn dangos bod cwmni o’r enw ‘Lower Ford UnitedGravel Co.’ ar waith yno. Ar ei ffordd adref o’r farchnad daw Robin yn ei lori wyneb yn wyneb ag un o lorïau’r cwmni newydd, ac wrth orfod gwneud lle iddi basio mae’n colli ei dymer gyda’r Sais sy’n ei gyrru. Mae’n cyrraedd adref mewn hwyliau drwg wrth feddwl am y modd y mae’r ardal yn newid mor gyflym. Yn Arllechwedd mae sioc arall yn ei aros wrth iddo ddarganfod Jeff a Mared yn caru yn y beudy mawr.

Ar fore dydd Nadolig mae Robin mewn hwyliau drwg eto. Mae’r boen yn ei stumog sydd wedi bod yn ei boeni erstro wedi dychwelyd, ac yn y prynhawn, wrth fynd ar drywydd llwynog yn yr eira, mae’n mynd yn sâl wrth i’r dolur stumog fyrstio. Daw Mared o hyd iddo yn anymwybodol ac wedi cyfogi gwaed. Caiff ei ruthro i’r ysbyty am lawdriniaeth frys gan aros yno am tua deg diwrnod. Ar ei noson olaf yn yr ysbyty caiff Robin hunllef yn ymwneud â’r plentyn bach sydd wedi’i gladdu yn y berllan – ei fabi ef a Mared. Er ei fod yn well yn gorfforol, mae’r un hen feddyliau ac atgofion arswydus yn dal i’w boenydio felly.

Cawn wybod trwy ddyddiadur Mared fod Fo yn dal i ymddwyn yn rhyfedd ac mae Mared yn credu bod ysbryd Dewyrth Ifan yn dal i aflonyddu arno. Ond mae ganddi bethau eraill ar ei meddwl hefyd. Mae’n amlwg fod ei charwriaeth gyda Jeff yn parhau ac yn awr mae’n dechrau poeni ei bod yn feichiog.

Am y tair wythnos nesaf mae Robin, ar ôl ei lawdriniaeth, yn gorfod bodloni ar wneud gwaith ysgafn o gwmpas y fferm. Ceir wythnos o rew caled ac yna daw’r eira. Wrth fwydo’r defaid un diwrnod mae Robin yn sylwi bod capelGilgal – sydd wedi cael ei droi’n dŷ o’r enw ‘The Haven’ – ar werth. I Robin mae hyn yn arwydd pellach o’r newid sy’n digwydd yn yr ardal ac mae’n ei wylltio. Yn syth wedyn caiff ei atgoffa eto o’r Seisnigo wrth ddod ar draws plant di-Gymraeg yn slejio ar dir Arllechwedd. Mae’n adnabod un o’r plantfel mab Jeff. Yr un diwrnod mae’n darganfod un o’i wartheg yn hanner marw ac un arall wedi marw. Mae hyn yn arwain atffrae rhwng Robin a Mam, sy’n edliw i Robin ei fod yn ffermwr gwael.

Yn y cyfamser mae Mared hefyd ynghanol ei gofidiau ei hun. Mae wedi syrffedu ar undonedd bywyd yn Arllechwedd heb sôn am y cecru parhaus yn ddiweddar rhwng Robin a Mam. Ond yn fwy na dim mae’n poeni am yr hyn sydd i ddod a hithau’n gwybod i sicrwydd erbyn hyn ei bod yn feichiog.Gan fod Jeff yn dweud nad ef yw’r tad ac yn honni ei fod wedi cael fasectomi, mae Mared, mewn dryswch, yn chwilio am esboniad arall ar ei beichiogrwydd.Gydag ysbryd Dewyrth Ifan yn dal i aflonyddu arni, daw’n fwy a mwy sicr mai ef, rywsut, sydd wedi gwneud iddi feichiogi ac mae’r syniad yn codi arswyd arni. Os mai Dewyrth Ifan yw’r tad, ofn mawr Mared yw y bydd hanes yn ei ailadrodd ei hun ac y bydd hi’n geni erthyl o blentyn – fel y gwnaeth Mam, ar ôl ei pherthynas hithau gyda Dewyrth Ifan, roi genedigaeth i Fo.

Parhau y mae’r eira mawr gan arwain at ragor o golledion ar y fferm. Mae un arall o’r gwartheg yn marw yn ogystal â phump o ddefaid, heb sôn am Mic yr hen gi defaid. Cynyddu y mae’r tensiwn rhwng Robin a Mam ac ar un adeg mae Robin yn bygwth Mam gyda phrocer.

Mae Mared yn poeni mwy a mwy, yn isel ei hysbryd ac yn edrych yn wael. Un diwrnod ynghanol mis Mawrth (11 Mawrth), a hithau erbyn hyn yn feichiog erstri mis, mae’n torri’r newydd i Mam am y babi sydd ar y ffordd. Mae Mam o’i chof ac yn amau’n syth mai Robin yw’r tad, fel o’r blaen. Ond mae Robin ei hun, wrth glywed Mared a Mam yn ffraeo ar dop eu lleisiau, yn neidio i’r casgliad mai Jeff yw’r tad.

Mae hyn yn gwneud Robin yn flin iawn, er nad yw’n trafod y peth gyda neb. Ac mae helyntion eraill i ddod yr un diwrnod. Ar ôl darganfod bod injan ei lori wedi cracio oherwydd y rhew, mae’n cael cyfarfyddiad annisgwyl gyda pherchennog newydd capel Gilgal. Fel y perchennog blaenorol, a fu’n gyfrifol am droi’r capel yn dŷ, Sais ywGeorge Davison. Mae â’i lygad ar ddarn o dir comin lleol fel lleoliad ar gyfer sefydlu ysgol farchogaeth i’wferch a’i gŵr. Mae Robin yn dweud wrtho’n sarrug nad yw’r tir ar werth (er mai Harri Llwyn-crwn yn hytrach nag ef sydd biau’r tir dan sylw). Yr un diwrnod, sylweddola Robin o’r diwedd beth yw arwyddocâd y gair ‘United’ yn enw’r cwmni newydd, Lower Ford UnitedGravel Company, sy’n dal wrthi’n brysur yn Rhyd Isa: mae’r Saeson sy’n byw yn ffermydd Dôl-haidd a Chae’rperson, un bob ochr i’r afon, wedi dod at ei gilydd i ffurfio’r cwmni er mwyn sefydlu busnes newydd yn y Cwm. Mae’r cyfan yn ychwanegu at anniddigrwydd dwfn Robin: y modd y mae’r mewnfudwyr yn trawsnewid yr ardal, y trafferthion ar y fferm, perthynas Mared gyda Jeff a’r ffaith ei bod yn feichiog.

Erbyn diwedd y diwrnod hwn mae Mared yn teimlo rhywfaint yn well gan ei bod wedi dweud wrth Mam am ei chyflwr. Mae’n amlwg fod gan Mam rywfath o ateb i’r broblem ac mae hynny wedi tawelu ychydig ar feddwl Mared. Yn hwyr y noson honno mae’n penderfynu cael sgwrs efo Robin am y cyfan er mwyn clirio’r aer rhyngddynt ond cyn iddi lwyddo i wneud hynny mae ysbryd Dewyrth Ifan yn ymddangos iddi eto. Y tro hwn mae’r ysbryd fel petai’n ei rhybuddio i beidio â gwneud rhywbeth er nad yw Mared yn siŵr beth.

Ar ôl datblygiadau mawr y diwrnod uchod (11 Mawrth), disgrifio digwyddiadau’r ddau ddiwrnod dilynol y mae’r ddwy bennod olaf. Mae Mam yn awyddus iawn i gael Robin allan o’r tŷ ac mae yntau’n cytuno, yn anfoddog, i fynd i siopa i’r pentref yn y prynhawn. Yn ystod y bore, wrth iddo wneud ei waith o gwmpas y fferm, mae craith ei lawdriniaeth yn brifo mwy nag erioed ac mae’n dal yn ddig am y modd y mae’r mewnfudwyr yn newid natur a chymeriad yr ardal. Yn fwy na dim mae’n poeni am gyflwr Mared, ac am y baban sydd yn ei chroth, yn enwedig gan ei fod yn amau bod gan Mam fwriad i gael gwared ohono.

Pan mae Robin yn mynd yn ôl i’r tŷ am ei ginio mae Mared yn ei gwely, a Mam yn gwrthod dweud beth sy’n bod arni. Ar orchymyn Mam, mae Robin, dan brotest eto, yn mynd â bwyd i Fo, sy’n ymosod yn ffyrnig arno. Mae Robin yn mynd i lawr i’r pentref mewn tymer flin ac yn benderfynol o ddial ar y dyn sydd, yn ei olwg ef, yn gyfrifol am helynt Mared, sef Jeff. Aiff i dafarn Y Bladur i chwilio amdano ac er nad ywJeff yn y dafarn mae Robin yn aros yno i yfed gyda Harri a dau o’r trigolion lleol eraill. Testun eu sgwrs yw’r mewnfudwyr a chaiff Robin sioc o glywed bod Harri yn ystyried gwerthu Llwyn-crwn iGeorge Davison. Wedi cyrraedd adref, mae Robin yn dychryn o weld pa mor wan a gwelw yw Mared, ond mae Mam yn gwrthod galw doctor

Y noson honno mae Robin yn mynd allan ac yn rhoi capelGilgal ar dân. Er bod y weithred yn rhoi rhywfaint o foddhad iddo, nid yw’n dod â thawelwch meddwl; yn wir, mae’n arwain at un arall o’i hunllefau.

Drannoeth mae Mared, sy’n wan iawn erbyn hyn, yn rhoi gorchymyn i Robin losgi ei dyddiaduron i gyd. Mae Robin yn treulio gweddill y bore yn y sgubor sinc yn darllen y dyddiaduron. O’r diwedd mae Mam yn gofyn i Robin fynd i nôl doctor at Mared ac mae yntau ar fin mynd pan mae’r heddlu’n cyrraedd i’w holi am y tân yng nghapelGilgal. Mae Robin yn gwadu popeth. Ynghanol hyn i gyd mae’r doctor o’r pentref yn cyrraedd i weld Mared ond yn rhy hwyr – mae hi wedi marw. Yn ei sioc a’i alar mae Robin yn mynd i’r sgubor sinc i gyflawni dymuniad olaf ei chwaer, sef llosgi’r dyddiaduron. Yna mae’r heddlu’n dychwelyd er mwyn mynd â Robin i orsaf yr heddlu i’w holi ymhellach am y tân. Ond wrth chwilio amdano yn y sgubor maent yn dod o hyd i’w gorff. Mae wedi ei grogi ei hun.

Does neb ar ôl yn Arllechwedd bellach ond Mam, sy’n synfyfyrio o flaen y tân ac yn siarad gyda Dewyrth Ifan, a Fo, sy’n dal i ddolefain yn y llofft stabl. Mae’r nofel yn dod i ben gyda Harri Llwyn-crwn aGeorge Davison yn sefyll o flaen cragen capelGilgal yn gwylio’r hers sy’n cario cyrff Robin a Mared yn gadael y Cwm, y tu ôl i gar heddlu.

ThemâuGolygu

Ceir nifer o themâu amlwg yn y nofel. Maent yn cynnwys:

CymeriadauGolygu

  • Mam
  • Robin
  • Mared
  • Fo
  • Dewyrth Ifan
  • Harri Llwyn-crwn
  • Jeff

GwefannauGolygu

http://resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/atebol/welsh/nodiadau-nofel-yn-y-gwaed.pdf