Yn y Dechrau (albwm)

Albwm cyntaf y grŵp Y Trŵbz yw Yn y Dechrau. Rhyddhawyd yr albwm yn Awst 2015 ar y label Copa.

Yn y Dechrau
Clawr Yn y Dechrau
Albwm stiwdio gan Y Trŵbz
Rhyddhawyd Awst 2015
Label Copa

Roedd Trŵbz yn un o grwpiau cyntaf cynllun Senglau’r Selar.

Dewiswyd Yn y Dechrau yn un o ddeg albwm gorau 2015 gan ddarllenwyr cylchgrawn Y Selar.[1]

Canmoliaeth golygu

Dyma albwm sy’n rhemp o riffs a bloeddio, wedi eu gwrthgyferbynnu â chaneuon tyner sy’n adeiladu at grescendo

—Miriam Elin Jones, Y Selar

Cyfeiriadau golygu