Ynad Gogledd Cymru

Rheolwr Gogledd Cymru gan y Llywodraeth brenhinol Saesnig ar ôl concwest Cymru

Ynad Gogledd Cymru oedd prif swyddog y llywodraeth brenhinol Saesnig yng ngogledd Cymru ar ôl concwest Cymru gan Edward I, brenin Lloegr, a pasio Statud Rhuddlan.

Hanes golygu

Ar ôl concwest Gymru gan Edward I o Loegr a Statud Rhuddlan yn 1284, cyflwynwyd strwythurau Saesnig llywodraethiant i Gymru yn y Gogledd a'r De-Ddwyrain. Rhannwyd Gogledd Cymru am y tro cyntaf i fewn i "shires" a rhannwyd Gwynedd i'r siroedd Sir Ynys Môn, Sir Gaernarfon a Sir Feirionnydd. Yn y Gogledd-Ddwyrain cyflwynwyd sir newydd Sir y Fflint o dan awdurdodaeth Ynad Caer. Yn y De-Orllewin fe grewyd siroedd ers 1241 gyda Deheubarth wedi'i rannu yn Sir Aberteifi a Sir Gaerfyrddin. Roedd siroedd y Gogledd-Orllewin yn ffurfio Tywysogaeth Gogledd Cymru, a'r rhai yn y De-Orllewin yn ffurfio tywysogaeth y De. Mewn effaith fe ddaeth rhain yn diroedd brenin Lloegr.[1]

Yn y De a'r Gogledd, prif swyddog y llywodraeth brenhinol Saesnig oedd yr Ynad (Justiciar) a oedd mewn effaith yn is-reolwr brenhinol. Cynorthwydd yr Ynad oedd y Siambrlen (chamberlain) a reolodd drysorlys y ddau dywysogaeth. Yn is na'r Ynad yr oedd Siryf (Sheriff) yn gwasanaethu yn llysoedd y siroedd a gynhaliwyd yn fisol.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Watkin, Thomas Glyn (2007). The Legal History of Wales (yn Saesneg). University of Wales Press. t. 107.