Ynys Anticosti
Ynys ynghanol Gwlff St Lawrence yn nwyrain Canada yw ynys Anticosti (Ffrangeg: Île d'Anticosti, Saesneg: Anticosti Island, Iaith Innu: Notiskuan, Iaith Mi'kmaq: Natigostec). Yn weinyddol, mae'n rhan o dalaith Quebec.
Math | ynys |
---|---|
Prifddinas | Port-Menier |
Poblogaeth | 177 |
Cylchfa amser | UTC−05:00 |
Daearyddiaeth | |
Sir | L'Île-d'Anticosti |
Gwlad | Canada |
Arwynebedd | 7,941 km² |
Uwch y môr | 192 metr |
Gerllaw | Jacques Cartier Strait, Honguedo Strait |
Cyfesurynnau | 49.5386°N 63.2453°W |
Hyd | 217 cilometr |
Gydag arwynebedd o 7,892 km2, hi yw ugeinfed ynys Canada o ran maint. Yn y gogledd, fe'i gwahenir oddi wrth ranbarth Côte-Nord o dalaith Quebec (Penrhyn Labrador) gan Gulfor Jacques Cartier, ac yn y de mae Culfor Honguedo yn ei gwahanu oddi wrth benrhyn Gaspé.
Er ei bod yn ynys fawr, ychydig o boblogaeth sydd arni, 266 yn 2001, y rhan fwyaf ym mhentref Port-Menier yng ngorllewin yr ynys.