Ynys Prince of Wales (Nunavut)

Ynys yng ngogledd Canada yw Ynys Prince of Wales (Saesneg: Prince of Wales Island). Gydag arwynebedd o 33,339 km² (mewn cymhariaeth mae arwynebedd Ynys Môn yn 714 km²); hi yw'r ddegfed o ran maint o ynysoedd Canada, a'r 40ain o rain maint yn y byd. Nid oes poblogaeth barhaol arni.

Ynys Prince of Wales
Mathynys Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlEdward VII, Tywysog Cymru Edit this on Wikidata
PoblogaethEdit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolCanadian Arctic Archipelago Edit this on Wikidata
SirNunavut Edit this on Wikidata
GwladBaner Canada Canada
Arwynebedd33,339 km² Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Arctig Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau72.6°N 98.53°W Edit this on Wikidata
Map
Ynys Prince of Wales

Yn weinyddol, mae'r ynys yn rhan o diriogaeth Nunavut. Saif rhwng Ynys Victoria ac Ynys Somerset, i'r de o ynysoedd Queen Elizabeth.