Tywysog Cymru
Tywysog Cymru yw teitl etifedd diymwad coron y Deyrnas Unedig. Diben gwreiddiol y teitl oedd i uno Cymru dan benarglwyddiaeth Tywysog Gwynedd. Y person cyntaf i ddefnyddio'r teitl oedd Dafydd ap Llywelyn[1], ond Llywelyn ap Gruffudd oedd y cyntaf i gael ei gydnabod fel Tywysog Cymru, gyda sefydliad Tywysogaeth Cymru ym 1267. Ar ôl cwymp Llywelyn ym 1282 cafodd y dywysogaeth a'r teitl eu meddiannu gan goron Lloegr, ac ers arwisgo Edward o Gaernarfon ym 1301 mae'r teitl wedi cael ei roi i aer brenin Lloegr. Mae rhai eraill wedi hawlio'r teitl, yn bennaf Dafydd ap Gruffudd, Owain Lawgoch ac Owain Glyn Dŵr.
Brenhinoedd CymruGolygu
Brenin oedd y teitl a ddefnyddiai rheolwyr Cymreig cyn i'r term "tywysog" gael ei fabwysiadu. Serch hynny nid y tywysogion oedd y cyntaf i geisio uno Cymru dan un penarglwydd.
- Llwyddodd Rhodri Mawr, brenin Gwynedd (844-878), i ychwanegu Powys (855-878) a Seisyllwg (871-878) at ei deyrnas.
- Llwyddodd Hywel Dda, brenin Seisyllwg (900-950), i ddod yn frenin ar Ddyfed (904-950), Brycheiniog (930-950), Gwynedd a Phowys (942-950).
- Roedd Maredudd ab Owain, brenin Deheubarth (986-999) hefyd yn teyrnasu ar Wynedd a Phowys (986-999).
- Gruffudd ap Llywelyn yw'r unig rheolwr Cymreig i ddod yn frenin ar Gymru gyfan. Daeth yn frenin ar Wynedd a Phowys ym 1039, Deheubarth ym 1055, a gweddill Cymru ym 1058 tan ei farw ym 1063.
Tywysogion y CymryGolygu
Bu tueddiad i ddefnyddio'r gair Tywysog am reolwyr Cymru o tua 1200 ymlaen. Cyn hynny defnyddiwyd y gair brenin hyd yn oed gan groniclwyr Lloegr. Daeth Owain Gwynedd i ddefnyddio'r teitl princeps Wallensium (tywysog y Cymry) erbyn diwedd ei oes. Disgrifir ei fab Dafydd ab Owain Gwynedd fel princeps Norwalliae (tywysog gogledd Cymru) a Rhys ap Gruffudd o Ddeheubarth fel proprietarius princeps Sudwalie, (priod dywysog de Cymru). Mae John Davies (hanesydd) yn ei gyfrol Hanes Cymru yn pwysleisio nad yw newid teitl o frenin i dywysog yn golygu lleihad yn eu statws o angenrheidrwydd. Ystyr y gair Cymraeg 'tywysog' yw "un sy'n tywys, arweinydd, rheolwr" neu'n llythrennol "un sydd ar y blaen, un sy'n arwain."
Defnyddiai Llywelyn Fawr y teitl "Tywysog Gogledd Cymru".
Nod pob un o'r tywysogion hyn oedd i benarglwyddiaethu ar Gymru gyfan. Y rhai yn eu plith a lwyddodd i ddod yn benarglwyddi a de facto tywysogion Cymru oedd Owain Gwynedd, Rhys ap Gruffudd a Llywelyn Fawr; ond Llywelyn ap Gruffudd a lwyddodd i sefydlu Tywysogaeth Cymru.
Rhestr o Dywysogion y CymryGolygu
- Owain Gwynedd, "Tywysog y Cymry", Tywysog Gwynedd 1137-1170
- Rhys ap Gruffudd "Tywysog De Cymru" Tywysog Deheubarth 1155-1197
- Dafydd ab Owain Gwynedd "Tywysog Gogledd Cymru" Tywysog Gwynedd 1170-1195
- Llywelyn Fawr, "Tywysog Gogledd Cymru" Tywysog Gwynedd 1195-1240
- Dafydd ap Llywelyn "Tywysog Cymru" Tywysog Gwynedd 1240-1246
- Llywelyn ap Gruffudd "Tywysog Cymru" Tywysog Gwynedd 1246-1282; Tywysog Cymru 1267-1282
Tywysogion CymruGolygu
Prif Erthygl: Tywysogaeth Cymru
Sefydlwyd Tywysogaeth Cymru ym 1267 gan Lywelyn ap Gruffudd gyda chydnabyddiaeth Brenin Lloegr a'r Pab. Ar ôl cwymp Llywelyn ym 1282 cafodd y dywysogaeth a'r teitl eu meddiannu gan goron Lloegr, ac ers arwisgo Edward o Gaernarfon ym 1301 mae'r teitl wedi cael ei roi i aer brenin Lloegr.
Ers y Deddfau Uno ym 1536 a 1543 nid oes gan ddeilydd y teitl unrhyw rôl gyfansoddiadol yng Nghymru
Rhestr o Dywysogion CymruGolygu
- Llywelyn ap Gruffudd 1267-1282
- Edward o Gaernarfon 1301-1307
- Edward, y Tywysog Du 1343-1376
- Rhisiart o Bordeaux 1376-1377
- Harri Mynwy 1399-1413
- Edward o Westminster 1454-1471
- Edward mab Edward IV 1471-1483
- Edward o Middleham 1483-1484
- Arthur Tudur 1489-1502
- Harri Tudur 1504-1509
- Harri Stuart 1610-1612
- Siarl Stuart 1616-1625
- Siôr mab Siôr I 1714-1727
- Frederick 1729-1751
- Siôr mab Frederick 1751-1760
- Siôr y Rhaglyw Dywysog 1762-1820
- Albert Edward 1841-1901
- Siôr mab Edward VII 1901-1910
- Edward mab Siôr V 1910-1936
- Siarl Windsor (ers 1958)[2]
Hawlwyr i'r teitl o Dywysog CymruGolygu
Hawliodd Dafydd ap Gruffudd y teitl ar ôl marwolaeth ei frawd Llywelyn ap Gruffudd, ond ni oroesodd y rhyfel yn erbyn Edward I, brenin Lloegr.
Hawliodd Owain Lawgoch y teitl fel etifedd olaf llinach tywysogion Aberffraw, ond cafodd ei lofruddio cyn iddo wirioneddu ei gynlluniau.
Arweinydd gwrthryfel yn erbyn Harri IV, brenin Lloegr, coronwyd Owain yn Dywysog Cymru gan ei gefnogwyr ym 1400 a chafodd ei gydnabod gan frenin Ffrainc. Ffurfiodd Owain gynghrair strategol gyda gwrthwynebwyr mwyaf nerthol Harri. Carcharodd Edmund Mortimer, ewythr 5ed Iarll y Mers (Sir Caergrawnt), a oedd yn hawlio gorsedd Lloegr, ym 1402. Am gyfnod roedd yn rheoli bron y cyfan o Gymru, ond ar ôl 1405 dechreuodd y gwrthryfel edwino'n raddol. Ceir y cofnod olaf am Owain yn 1412, ac nid oes unrhyw sicrwydd am ei hanes ar ôl hynny. Saif, fodd bynnag, yng nghof y Gymru gyfoes fel un o bileri pwysicaf y genedl.