Ynys ger arfordir De Affrica yw Ynys Robben. Saif heb fod ymhell o Dref y Penrhyn.

Ynys Robben
Mathprison island Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolLiberation Heritage Route Edit this on Wikidata
SirSir Tref y Penrhyn Edit this on Wikidata
GwladBaner De Affrica De Affrica
Arwynebedd5.18 km², 475 ha Edit this on Wikidata
Uwch y môr17 metr Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau33.805°S 18.37°E Edit this on Wikidata
Cod post7400 Edit this on Wikidata
Hyd3.2 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle Treftadaeth y Byd, National heritage site of South Africa Edit this on Wikidata
Manylion

Bu'r ynys yn lle i gadw carcharorion am bron 400 mlynedd. Fe'i defnyddiwyd gyntaf i'r pwrpas hwn gan y Vereenigde Oost-Indische Compagnie (VOC) o'r Iseldiroedd. Mae'r dyfroedd o'i hamgylch yn oer, ac mae siarcod yn niferus yma, sy'n ei gwneud yn anodd iawn i neb ddianc trwy nofio.

O 1836 hyd 1931, defnyddid Ynys Robben i gadw dioddeffwyr o'r gwahanglwyf. Yn 1959, daeth yn garchar i wrthwynebwyr llywodraeth De Affrica a threfn Apartheid. Y mwyaf adbabyddus o'r carcharorion a gadwyd yma oedd Nelson Mandela; bu arlwydd presennol De Affrica, Jacob Zuma, hefyd yn garcharor yma.

Rhyddhawyd y carcharorion gwleidyddol olaf yn 1991, ac yn 1996 symudwyd y carcharorion oherwydd troseddau anwleidyddol i garcharau eraill. Mae'r ynys yn awr yn gyrchfan i dwristiaid, gyda chyn-garcharorion yn gweithredu fel tywysyddion. Dynodwyd yr ynys yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.

Ynys Robben