Jacob Zuma
Jacob Gedleyihlekisa Zuma (ganed 12 Ebrill 1942) oedd Arlywydd De Affrica rhwng 2009 a'i ymddiswyddiad yn Chwefror 2018.[1] Fe oedd y pedwerydd Arlywydd yn y cyfnod wedi diwedd Apartheid.
Jacob Zuma | |
---|---|
Ganwyd | Jacob Gedleyihlekisa Zuma 12 Ebrill 1942 Nkandla |
Dinasyddiaeth | De Affrica, Undeb De Affrica |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Arlywydd De Affrica, Is-lywydd, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol De Affrica |
Plaid Wleidyddol | African National Congress, South African Communist Party, uMkhonto we Sizwe |
Priod | Nkosazana Dlamini-Zuma, Tobeka Madiba, Nompumelelo Ntuli Zuma, Kate Mantsho, Gertrude Sizakele Khumalo, Gloria Bongekile Ngema |
Plant | Thuthukile Zuma, Gugulethu Zuma-Ncube, Duduzane Zuma, Sinqumo Zuma, Mziwoxolo Edward Zuma, Mxolisi (Saady) Zuma, Duduzile Zuma-Sambudla |
Gwobr/au | Marchog Groes Fawr Urdd y Baddon, Urdd José Martí, Order of the Eagle of Zambia, Urdd Gwladwriaeth Serbia, Urdd Abdulaziz al Saud |
Ganed Zuma yn KwaZulu-Natal, yn aelod o lwyth y Swlŵiaid. Ymunodd a'r ANC yn 1959, a daeth yn aelod o'r adain arfog, Umkhonto we Sizwe. Yn 1963 cymerwyd ef i'r ddalfa, a threuliodd ddeng mlynedd yn y carchar ar Ynys Robben.
Rhwng 1999 a 2005 bu'n Ddirpwy Arlywydd De Affrica dan Thabo Mbeki, ac ers 18 Rhagfyr 2007 mae wedi bod yn gadeirydd yr ANC. Wedi i'r ANC ennill etholiad Ebrill 2009, dewiswyd ef yn Arlywydd gan y Senedd ar 6 Mai 2009, a dechreuodd ar y swydd ar 9 Mai.
Daethpwyd ag achos llys am lygredd yn ei erbyn, ac mae'r achos yn parhau heb ddod i gasgliad. Oherwydd hyn a hanesion am anturiaethau rhywiol, beirniadwyd Zuma yn llym gan yr Archesgob Desmond Tutu.
Ym mis Medi 2021, gwrthododd Llys Cyfansoddiadol De Affrica ddeiseb y cyn-Arlywydd Jacob Zuma i wyrdroi ei ddyfarniad gan ei ddedfrydu i 15 mis yn y carchar am ddirmyg cyfiawnder.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ South Africa's President Jacob Zuma resigns (en) , BBC News, 14 Chwefror 2018.
Swyddi gwleidyddol | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Kgalema Motlanthe |
Arlywydd De Affrica 2009 – 2018 |
Olynydd: Cyril Ramaphosa |