Ynys Thurston
Ynys yn yr Antarctig yw Ynys Thurston. Mae'n 215 km o hyd a 90 km o led, gydag arwynebedd o 15,700 km². Saif i'r gogledd-orllewin o arfordir Tir Ellsworth ar dir mawr Antarctica. Hi yw'r drydedd ynys yn yr Antarctig yn ôl maint, ar ôl Ynys Alexander I ac Ynys Berkner. Gorchuddir yr ynys gan rew.
Math | ynys |
---|---|
Poblogaeth | 0 |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Yr Antarctig |
Sir | Ardal Cytundeb Antarctig |
Arwynebedd | 15,700 km² |
Gerllaw | Bellingshausen Sea |
Cyfesurynnau | 72.23°S 98.6153°W |
Hyd | 215 cilometr |
Fe'i darganfyddwyd gan y fforiwr Americanaidd Richard Evelyn Byrd yn 1940, ac fe'i henwyd ar ôl W. Harri Thurston o Efrog Newydd, a oedd wedi ariannu ei ymgyrch. Credid ar y cychwyn mai penrhyn ydoedd, a dim ond yn 1960 y sylweddolwyd ei bod yn ynys.