Ynys yn Antarctica yw Ynys Alexander I. Saif i'r de-ddwyrain o Fôr Bellingshausen ac i'r de-orllewin o Benrhyn Antarctica. Mae'n 435 km o hyd a 200 km o led, gydag arwynebedd o 43250 km2.

Ynys Alexander I
Mathynys, tiriogaeth ddadleuol Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAlexander I Edit this on Wikidata
PoblogaethEdit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirArdal Cytundeb Antarctig Edit this on Wikidata
Arwynebedd49,070 km² Edit this on Wikidata
GerllawBellingshausen Sea Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau71°S 70°W Edit this on Wikidata
Hyd378 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad Ynys Alexander I (mewn coch)

Credai darganfyddwyr yr ynys, fforwyr Rwsaidd dan Fabian Gottlieb von Bellingshausen ym 1821, ei bod yn rhan o dir mawr yr Antarctic, a rhoddwyd yr enw Tir Alexander I i'r tir newydd ar ôl Alexander I, ymerawdwr Rwsia. Yn 1940-41, profodd fforwyr o'r Unol Daleithiau dan Finne Ronne ei bod yn ynys.

Hawlir yr ynys gan yr Ariannin, Tsile a'r Deyrnas Unedig, ond ni dderbynir yr un o'r hawliau hyn yn rhyngwladol.