Ynys Berkner
Ynys yn yr Antarctig yw Ynys Berkner, hefyd Ynys Hubley. Hi yw ynys ail-fwyaf yr Antarctig, ar ôl Ynys Alexander I. Mae'n 320 km o hyd a 135 km o led, gydag arwynebedd o 43873 km2. Ystyrir mai hi yw ynys fwyaf deheuol y byd, ond ni ellir cyrraedd ati mewn llong, gan ei bod wedi ei hamgylchynnu gan rew.
Math | ice rise |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Yr Antarctig |
Sir | Ardal Cytundeb Antarctig |
Arwynebedd | 43,873 km² |
Uwch y môr | 869 metr |
Gerllaw | Weddell Sea |
Cyfesurynnau | 79.67°S 46.33°W |
Hyd | 320 cilometr |
Darganfyddwyr yr ynys oedd fforwyr o'r Unol Daleithiau dan Finne Ronne yn 1957-1958. Penderfynodd pwyllgor yn yr Unol Daleithiau ei henwi ar ôl y ffisegwr Americanaidd Lloyd Berkner.
Hawlir yr ynys gan yr Ariannin, Tsile a'r Deyrnas Unedig, ond ni dderbynir yr un o'r hawliau hyn yn rhyngwladol.