Ynys Toraigh
Ynys oddi ar arfordir gogledd-orllewin Iwerddon yw Ynys Toraigh (Saesneg: Tory Island). Saif yn Swydd Donegal, tua naw milltir o'r man agosaf ar y tir mawr.
![]() | |
Math | ynys ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 142 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Prydain ![]() |
Gwlad | Gweriniaeth Iwerddon ![]() |
Arwynebedd | 3 km² ![]() |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd ![]() |
Cyfesurynnau | 55.25°N 8.22°W ![]() |
![]() | |
Mae poblogaeth yr ynys tua 170, y mwyafrif yn siaradwyr Gwyddeleg fel iaith gyntaf. Ffurfia'r ynys ran o'r Gaeltacht. Mae hefyd yn safle bwysig i nifer o rywogaethau o adar, yn enwedig Rhegen yr Ŷd.