Ynysoedd Komandorski
Ynysoedd ym Môr Bering oddi ar arfordir dwyreiniol Rwsia yw Ynysoedd Komandorski (Rwseg: Командорские острова, Komandorskieje ostrova).
Math | grŵp o ynysoedd |
---|---|
Poblogaeth | 671 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Crai Kamchatka |
Gwlad | Rwsia |
Arwynebedd | 1,846 km² |
Uwch y môr | 755 metr |
Gerllaw | Y Cefnfor Tawel |
Cyfesurynnau | 55°N 166.4°E |
Saif yr ynysoedd i'r dwyrain o Orynys Kamchatka. Y ddwy brif ynys yw Ynys Bering ac Ynys Medny, gyda dwy ynys lai. Nid yw'r boblogaeth yn fawr; y pentref mwyaf yw Nikolskoje ar Ynys Bering, gyda phoblogaeth o tua 800. Rhoddwyd yr enw i'r ynysoedd gan y fforiwr Danaidd Vitus Bering yn 1741.
Yn weinyddol, mae'r ynysoedd yn rhan o Crai Kamchatka.