Gorynys Kamchatka
Gorynys ar arfordir dwyreiniol Rwsia yw Gorynys Kamchatka (Rwseg: Камчатка). Saif rhwng Môr Ochotsk yn y gorllewin a Môr Bering yn y dwyrain. Yn weinyddol, mae'n rhan o dalaith Dwyrain Pell Rwsia ac mae ers 2007 wedi bod yn rhan o Crai Kamchatka, sydd hefyd yn cynnwys Ynysoedd Komandorski ac Ynys Karaginski
![]() | |
Math |
penrhyn ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Crai Kamchatka ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
270,000 km² ![]() |
Gerllaw |
Môr Okhotsk ![]() |
Cyfesurynnau |
57°N 160°E ![]() |
![]() | |
Mae arwynebedd y penrhyn tua 472.300 km² (ychydig yn fwy na Sweden), ac yn 1250 km o hyd a 450 km o led yn y man lletaf. Llifa sawl afon drwy Kamchatka, yn cynnwys Afon Kamchatka.
Yn ddaearegol, mae'n ardal ieuanc iawn, a cheir tua 160 o losgfynyddoedd yma. Cyhoeddwyd Llosgfynyddoedd Kamchatka yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 2001.
Nodweddir yr orynys gan amrywiaeth fawr o blanhigion, adar ac anifeiliaid. Nid yw'r boblogaeth yn fawr, gyda'r nifer mwyaf yn ardal Bae Avats yn y de-ddwyrain.