Ynysoedd Toronto

ynysoedd yn Llyn Ontario, Canada

Mae Ynysoedd Toronto yn grwp o 15 ynys, agos at ei gilydd ac at ddinas Toronto ar Lyn Ontario.[1] Mae’r ynysoedd yn rhoi lloches i Harbwr Toronto. Ar yr ynysoedd mae Parc Ynys Toronto, Maes Awyr Billy Bishop, marina, sawl clwb hwylio, Parc Centreville a sawl traeth. Does dim ceir ar yr ynysoedd.[2][3] Mae fferiau i’r ynysoedd o Derminal Fferi Jack Layton a thacsis dŵr rhwng Mai a Medi.

Ynysoedd Toronto
Mathgrŵp o ynysoedd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolToronto Edit this on Wikidata
GwladBaner Canada Canada
Yn ffinio gydaHarbourfront, Toronto Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.6208°N 79.3786°W Edit this on Wikidata
Map
Toronto o Ynys Ward
Maes Awyr Billy Bishop

Ynys Ward yw'r mwyaf yn y grŵp.[4]

Mae’r ynysoedd y boblogaidd gyda thwristiaid ac ar gyfer amser hamdden. Does dim tal ar gyfer beiciau ar y fferi, ac mae’n bosibl eu llogi nhw ar Ynys Ganol. Mae caiacau, cychod a bwrddau padlo ar gael hefyd rhwng Mai a Medi.[5] Mae cwrs golff disg, ac mae traeth ar Ynys Ganol. Mar gerddi, parciau ac ardaloedd i chwarae, ac mae pobl yn sglefrio yn ystod y gaeaf.

 
Map o’r harbwr, 1857.
 
Tŷ gwreiddiol y Clwb Hwylio Brenhinol Canada ar Ynysoedd Toronto, cwblhawyd ym 1881.
 
Ar ôl agor ym 1939, defnyddiwyd Maes Awyr Porthladd Siors VI , gan bilotiaid o Norwy i hyfforddi yn ystod yr Air Ryfel Byd

.

 
Cychod alarch ym Mharc Centreville, 1984. Agorwyd y parc ym 1967

.

Defnyddiwyd yr ynysoedd gan bobl cynhenid, gan gynnwys y llwyth Mississauga, dros filoedd o flynyddoedd.[6].I’r llwyth Mississauga, mae’r ynysoedd yn dir cysegredig. Prynwyd yr ynysoedd gan Brydain oddi wrth y Mississauga fel rhan o Bwrcas Toronto ym 1787 a 1805 gyda nwyddau werth £1700.[7] Hawliodd y llwyth Mississauga ym 1986 nad oedd yr ynysoedd yn rhan o’r gytundeb, a nid oedd eu iawndal yn ddigonol. Derbynnodd y llwyth $145 miliwn o ddoleri yn 2010 i setlo’r fater[8].

Arolygwyd y penrhyn a thraethellau ym 1792 gan is-gapten Joseph Bouchette o’r llynges frenhinol. Ystyriwyd y penrhyn mor iach gan y bobl frodorol bod nhw wedi mynd yno pan oeddent yn sâl. Roedd nifer fawr o gomunedau brodorol rhwng y penrhyn ac Afon Don (Ontario). Adeiladwyd Blockhouse Penrhyn Gibraltar ar yr ynys gan y Prydeinwyr ym 1794. Garsiwn Bae Blockhouse oedd enw eu garsiwn. Adeiladwyd garsiwn arall erbyn 1800, ond dinistrwyd yn ystod Brwydr York. Adeiladwyd un arall; gadawyd yr un newydd erbyn 1823, ac yn cael ei ddymchwel ym 1833.

Adeiladwyd Goleudy Penrhyn Gibraltar ym 1809. Honwyd bod ceidwad cyntaf y goleudy cafodd ei lofruddio ym 1815 gan filwyr o Fort York.[9] Cyhuddwyd John Henry a John Blueman o lofruddio John Paul Radelmüller, ond rhyddfarnwyd y ddau.[10]

Gwahanwyd y penrhyn o’r tir mawr gan storm ym 1852, ond adeiladwyd morglawdd ac unodd penrhyn a thir mawr eto’n naturiol. Ond daeth y penrhyn yn ynys eto ar 13 Ebrill 1858 yn ystod storm arall a ddinistrwyd 2 westy hefyd.[11]

Daeth y teulu Hanlan i fyw ar Benrhyn Gibraltar ym 1862. Aeth perchnogaeth yr ynysoedd o lywodraeth Canada i ddinas Toronto ym 1867. Rhanwyd y tir i ganiatáu cread ardaloedd adloniant, bythynnod tymhorol a gwestai. Daeth gorllewin yr ynys yn lle poblogaidd, ac adeiladwyd comuned o fythynodd yno. Adeiladwyd gwesty gan John Hanlan ar Benrhyn Hanlan. Daeth ei fab Ned Hanlan yn rhwydwr enwog cyn iddo gymryd drosodd o’r gwesty. Teuluoedd eraill enwog yr ynysoedd oedd y teulu Durnan a theulu Ward.[12]

Adeiladwyd cartrefi haf ar Ynys Canol gan deuluoedd cyfoethog Toronto, a symudodd Clwb Brenhinol Hwylio Canada i’r ynysoedd ym 1881. Datblygodd cymuned gwersylla ar Ynys Ward o gwmpas Gwesty Ward’s.

Roedd ysgol un ystafell ger Goleudy Penrhyn Gibraltar ym 1888, er nad oedd agor trwy’r flwyddyn tan 1896, er gyda ond un athro. Ar ôl tân, adeiladwyd ysgol newydd; roedd 52 disgybl ym 1909, a 654 erbyn 1954. Erbyn 2018 roedd dosbarthiadau o lefel meithrin i Radd 6, rhaglen wyddoniaeth naturiol i ddysgwyr gradd 5 a 6, a chanolfan ofal ddyddiol i blant rhwng 2 a 5 oed[13]

Ym 1899, roedd 8 tenant dros yr haf ar Ynys Ward, yn talu $10 yr un dros y tymor.[14] Erbyn 1913 roedd cymaint o bebyll bod rhaid eu trefnu gyda heolydd.[15] Oherwydd prosiect adennill tir gan Gwmni Fferri Toronto ym 1894, Roedd lle ar gael i greu parc adloniant Hanlan’s Point. Adeiladwyd Stadiwm Hanlan’s Point ar gyfer tîm pêl-bâs Toronto Maple Leafs ym 1897. Ail-adeiladwyd y stadiwm sawl gwaith cyn iddynt symud i stadiwm newydd ar y tir mawr.

Adeiladwyd hangar dros dro rhwng 1915 a 1916 ar y traeth gan Ysgol Hedfan Curtiss[16] i greu maes awyr awyren-fôr lle hyfforddwyd pilotiaid ar gyfer y Rhyfel Byd Cyntaf. Dechreuwyd gwaith adeiladu maes awyr newydd ym 1937 ar safle’r parc a stadiwm. Fel rhan o’r broses, symudwyd y gymuned o Benrhyn Hanlan i Ynys Algonquin. Symudwyd 31 bwthyn a chrewyd strydoedd ar eu cyfer nhw. Agorwyd y mae awyr, gyda’r enw ‘Maes Awyr Ynys Porthladd George VI’ ym 1939. Defnyddiwyd y maes awyr i hyfforddi pilotiaid o Norwy yn gynnar yn yr Ail Ryfel Byd. Ar ôl sawl damwain, symudwyd yr ysgol i Muskoka, Ontario.

Rhoddwyd caniatâd gan Gyngor Dinas Toronto i aros trwy’r flwyddyn i gyd ym 1947, oherwydd diffyg tai ar ôl yr Ail Ryfel Byd, y caniatâd i ddod i ben ym 1968.[17] Erbyn y 1950au estynnodd tua 630 o dai o Ynys Ward i Benrhyn Hanlan, yn ogystal â theatr, neuadd bowlio, siopau, gwestai a neuaddau dawns.[18]

Ym 1953, Penderfynnodd Cyngor Dinesig Toronto cael gwared o’r gomuned ar sail tir parc, a dechreuwyd dymchweliad tai a bythynnod. Agorwyd ‘Far Enough Farm’ gan Adran Parciau y ddinas ym 1959 a Parc Adloniant Centreville a Marina ym 1967. Agorwyd terminal fferri newydd ym 1971. Ffurfiwyd Cymdeithas Preswylwyr Ynysoedd Toronto ym 1969; erbyn 1970, roedd 250 o dai dal yn weddill ar ynysoedd Ward ac Algonquin. Pleidleisodd Cyngor Dinas Toronto o flaid cadw comuned yr ynysoedd ac yn trosglwyddo’r ynysoedd yn ôl i’r ddinas.Ond roedd y Cyngor Metro dal yn awyddus i ddymchwel tai’r ynysoedd. Cytunodd Ontario y fod yn ganolydd rhyngddynt.

Daearyddiaeth

golygu

Maint yr ynysoedd yw tua 820 acer. Yr un fwyaf yw Central Island, sy’n siâp cilgant. Y 2 nesaf ar ran maint yw ynysoedd Algonquin ac Olympic. Mae tai ar Ynys Algonquin, ac mae mwyafrif Ynys Olympic yn barc cyhoeddus. Mae ‘Ward’s Island’ mewn gwirionedd yn rhan o Cetral Island, ac mae tai’n llenwi mwyafrif ei thir. Mae Doc Centre Island a Parc Adloniant Centreville ar Middle Island. Enw arall am ‘Centre Island’ yw ‘Toronto Island’. [19] Mae ynysoedd llai:-

  • Mugg's Island – lle mae’r clwb hwylio.
  • Forestry Island – ynys coediog.
  • Snake Island – coediog, gyda thraeth yn wynebu harbwr Toronto. Mae pont i gerddwyr rhwng yr ynys a Centre Island.
  • North Chippewa Island – coediog, ac yn storfa ar gyfer cychod y clwb hwylio.
  • South Chippewa Island – coediog; rhwng Snake Island a South Island.
  • South Island – mae storfa ar gyfer cychod y clwb hwylio a chwrt tenis.
  • RCYC Island – lle mae ‘Royal Canadian Yacht Club’
  • Hanlan's Island – coediog.
  • Senator Frank Patrick O'Connor Island – rhwng ynysoedd Chippewa a Snake.
  • Doughnut Island ger Mugg's Island.
  • Duckling Island) ger Middle Island.

Yn wreiddiol, roedd yr ynysoedd ond un penrhyn, 9 cilomedr o hyd, yn estyn o’r tit mawr, crewyd o lifwaddod o Glogwyni Scarborough gan lif o ddŵr gorllewinol. Crewyd sianel i’r dwyrain o Ynys Ward gan storm ym 1853, lledaenwyd gan storm arall ar 13 Ebrill 1858, a rhoddwyd yr enw Bwlch Dwyreiniol.[20] Stopiwyd y twf o lifwaddod yn y 1960au, ac mae arfordiroedd caled yn amddiffyn yn erbyn erydiad. Mae adennill tir wedi cyfrannu at fwyhau maint yr ynysoedd, ac mae treillio wedi newid eu siâp rhywfaint.

Diwylliant

golygu

Comuned

golygu

Mae tua 300 o dai ar yr ynysoedd, y mwyafrif ar ynysoedd Ward ac Algonquin. Mae rheolau llym dros brynu a gwerthu tai. Mae 2 ganolfan gofal dydd, ysgol ac eglwys anglicanaidd Saint Andrew-by-the-Lake. Mae Ysgol Gyhoeddus Ynys Toronto yn rhedeg cyrsiau ar gyfer trigolion yr ynysoedd, trigolion arfordir Toronto ac eraill. Mae cwrs preswyl gwyddoniaeth naturiol a meithrinfa.[21][22][23][24]Adeiladwyd yr eglwys ym 1884 a symudwyd yn hwyrach i’w lle presennol.[25]

Mae Artscape Gibraltar Point, sy’n defnyddio hen adeiladau Ysgol Cyhoeddus Ynys Toronto, yn ganolfan i artistiaid, gan gynnwys arlunwyr, cerflunwyr, cerddorion ac actorion.[26]

Hamdden

golygu
 
Traeth Ynys Canol
 
cwch ar yr ynysoedd

Mae traethau, gan gynnwys Traeth Ynys Canol, Traeth Manitou, Traeth Pwynt Gibraltar, Traeth Pwynt Hanlan a Thraeth Ynys Ward.[27]

Mae pobl wedi defnyddio cychod o gwmpas yr ynysoedd ers dros ganrif. Ffurfiwyd Clwb Hwylio Ynys Toronto ym 1965. Mae hefyd Clwb Hwylio Harbour City, Clwb Hwylio’r Ynys a Clwb Hwylio Queen city, yn ogystal a chlwbiau llai megis Clwb Hwylio Sunfish Cut a Clwb Canw Ynys Toronto.[28] Mae marina cyhoeddus a regata Cychod Draig.

Crewyd Parc Adloniant Centreville ym 1967 gyda thema 1900. Mae rheilffordd fechan a hen garwsel. Mae’n agor yn ddyddiol dros yr haf. Mae Fferm Far Enough yn gyfagos, lle mae anifeiliad fferm ac adar. Mae hefyd Gardd Franklin ar gyfer plant, maes chwarae a drysle gerllaw.[29] Ar ochr orllewinol Ynys Ward mae cwrs golff disg. Mae cyrtiau tenis cyhoeddus ar Pwynt Hanlan a chlwb tenis ar Ynys Ward.

Trafnidiaeth

golygu

Maes Awyr Dinas Toronto Billy Bishop

golygu

Defnyddir y maes awyr gan gymniau hedfan, ac hefyd ar gyfer hyfforddi pilotiaid, Medevac a gan awyrennau preifat. Mae twnnel i gerddwyr yn cysylltu’r maes awyr â’r tir mawr. [30] Mae llywodraeth Canada wedi gwrthod caniatáu awyrennau jet rhag defnyddio’r maes awyr.

Gwasanaethau fferi

golygu
 
Fferi’ gadael yr ynysoedd

Mae 3 fferi ar gael o Derminal Jack Layton, yn Ninas Toronto, un i Bwynt Hanlan, un i Barc Central Island ac un i Ynys Ward. Dim ond yr un i Ynys Ward yn redeg trwy’r flwyddyn. Mae fferi arall yn cario teithwyr a cherbydau o Heol Bathurst, Toronto, i’r maes awyr. Does dim cysylltiad cyhoeddus rhwng y maes awyr a gweddill yr ynysoedd.

Ffyrdd

golygu

[[File:Centre Island Toronto.jpg|thumb|upright|Seicliwr ar Ynys Canol. Caniateir ond cerbydau llywodraeth Toronto ar yr ynysoedd. Mae croeso i seiclwyr. Mae’r ffyrdd yn balmantog. Mae 2 bont yn cysylltu Ynys Canol ac Ynys Olympic, un yn cysylltu ac Ynys y De, un i Ynys Snake ac un i Ynys Algonquin.

Bws yr Ynysoedd

golygu

Os nid oes fferi oherwydd gwyntoedd cryfion, gwaith cynnal a chadw neu harbwr wedi fferu, defnyddir Bws yr Ynysoedd, yn cyrraedd yr ynysoedd trwy dwnnel. Mae’r bws yn dechrau ei siwrnai o du allan terminal y maes awyr, ac yn croesi’r rhedfeydd,[31]

Llyfryddiaeth

golygu
  • More Than an Island (Irwin, 1984)
  • Barry B Swadron, Pressure Island: The Report of the Commission of Inquiry into the Toronto Islands (Llywodraeth Ontario)
  • Robert Sward, The Toronto Islands (Dreadnought)
  • Toronto Harbour:The Passing Years (Toronto: Awdurdod Porthladd Toronto, 1985)
  • Ted Wickson, Reflections of Toronto Harbour (Toronto: Awdurdod Porthladd Toronto)

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Gwyddoniadur Canada
  2. Gwefan Open Book Ontario
  3. Gwefan Carbusters
  4. Filey, Mike (1998). Discover & explore Toronto's waterfront: a walker's, jogger's, cyclist's, boater's guide to Toronto's lakeside sites and history (yn Saesneg). Toronto: Dundurn Press. t. 139. ISBN 1550023047.
  5. gwefan torontoislandsup
  6. ’Sacred Feathers’ gan Donald B Smith, 1987; cyhoeddwyr Gwasg Prifysgol Toronto; isbn=0-8020-6732-8
  7. Gwefan toronto.ca
  8. Gwefan llywodraeth Canada
  9. Gwefan Dinas Toronto
  10. Erthygl gan Eamonn O’Keefe ar achos Henry a Blueman
  11. "Gwefan Torontoist". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-04-16. Cyrchwyd 2022-04-12.
  12. Gwefan y Star; erthygl am Bill Durnan ar 2 Mehefin 2003
  13. Gwefan schoolweb; tudalen am yr ysgol
  14. Toronto Star, 3 Gorffennaf, 1983
  15. "Gwefan torontoisland.org". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-07-09. Cyrchwyd 2022-05-31.
  16. "Gwefan heritagemississauga.com" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2016-09-13. Cyrchwyd 2022-06-11.
  17. ’For Them, Toronto's Islands Are No More ‘ gan Ron Haggart, Toronto Star, 16 Medi 1963
  18. Gwefan yr ynysoedd
  19. Gwefan www.toronto.ca
  20. Gwefan www.toronto.ca
  21. Gwefan Ysgol Ynys Toronto
  22. "Gwefan Meithrinfa Pwynt Gibraltar". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-23. Cyrchwyd 2022-08-07.
  23. "Gwefan Gofal Dydd Waterfront Montessori". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-19. Cyrchwyd 2022-08-07.
  24. "Gwefan Eglwys Saint-Andrew-by-the-Lake". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-07-09. Cyrchwyd 2022-08-07.
  25. Gwefan yr eglwys
  26. "Gwefan Artscape". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-10-26. Cyrchwyd 2022-08-15.
  27. Gwefan Tourism Toronto[dolen farw]
  28. "Gwefan Toronto Island Canoe Club". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-07-14. Cyrchwyd 2022-08-15.
  29. "Gwefan helpwevegotkids.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-06-15. Cyrchwyd 2022-08-25.
  30. "Gwefan Awdurdod y Porthladd" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2012-05-23. Cyrchwyd 2022-09-05.
  31. Cylchgrawn Bysiau Byd-Eang, Mai 2015;ISSN|0961-2122

Dolenni allanol

golygu