Yr Adferiad
Ailsefydliad brenhiniaeth Lloegr yn 1660, ac enw ar y cyfnod o hanes Lloegr yn sgil hynny, oedd yr Adferiad. Defnyddir y term gan amlaf i grybwyll teyrnasiadau Siarl II, brenin Lloegr (1660–85), a Iago II, brenin Lloegr (1885–88).
Enghraifft o'r canlynol | cyfnod o hanes |
---|---|
Dechreuwyd | 1660 |
Ar ddiwedd Ail Ryfel Cartref Lloegr (1648–49), dienyddiwyd y Brenin Siarl I ar 30 Ionawr 1649, gan nodi dechrau'r Rhyngdeyrnasiad (1649–60) yn nheyrnasoedd Lloegr, yr Alban, ac Iwerddon. Sefydlwyd Gwerinlywodraeth Lloegr gan Senedd y Gweddill. O 1653 i 1659, gelwid llywodraeth y wlad yn y Ddiffynwriaeth, dan arweiniad Oliver Cromwell ac yna'i fab Richard Cromwell. Ymddiswyddodd Richard Cromwell o swydd yr Arglwydd Amddiffynnydd ym Mai 1659, a brwydrodd seneddwyr dros lywodraeth y wlad am flwyddyn. Ymgynulliodd y Senedd Gonfensiwn ar 25 Ebrill 1660, heb i'r aelodau dyngu llw i'r Werinlywodraeth na'r frenhiniaeth, a chyhoeddwyd Siarl Stiwart yn Siarl II, Brenin Lloegr, ar 8 Mai. Dychwelodd yr esgobion i'r senedd, ac ailsefydlogwyd uniongrededd Anglicanaidd Eglwys Loegr.
Mae llenyddiaeth yr Adferiad yn cyfeirio at y rhyddiaith, barddoniaeth, a drama a ysgrifennwyd yn Lloegr yn y cyfnod 1660–1700.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ J. P. Kenyon (gol.), The Wordsworth Dictionary of British History (Ware, Swydd Hertford: Wordsworth Editions, 1994), t. 300.