Yr Horn
Penrhyn mwyaf deheuol De America yw'r Horn ( 55° 58' 48" lledred deheuol, 67° 17' 21" hydred gorllewinol). Y bobl cyntaf i hwylio rownd yr Horn oedd Willem Cornelis Schouten a Jacob Le Maire, morwyr o'r Iseldiroedd, ar 26 Ionawr, 1616, ac felly fe'i enwyd ar ôl y dref lle ganwyd Schoutens, Hoorn yn yr Iseldiroedd.
Math | pentir |
---|---|
Enwyd ar ôl | Hoorn |
Daearyddiaeth | |
Sir | Magellan and the Chilean Antarctic Region, Cabo de Hornos, Talaith Antártica Chilena |
Gwlad | Tsile |
Gerllaw | Drake Passage |
Cyfesurynnau | 55.98°S 67.289167°W |
- Gweler hefyd Penrhyn (gwahaniaethu).
Dydy'r Horn ddim ar gyfandir De America ei hun ond ar Ynys Hornos sydd yn perthyn i Tierra del Fuego. Penrhyn mwyaf deheuol y cyfandir ei hun yw gorynys Brunswick sydd tua 260 km i'r gogledd.
Cyn adeiladu Camlas Panamâ (agorwyd ym 1914) yr oedd rhaid fynd o gwmpas yr Horn pan yn teithio o Gefnfor Iwerydd i'r Cefnfor Tawel - neu i'r gwrthwyneb - ar long, heblaw am fynd o gwmpas Penrhyn Gobaith Da ac Asia. Beth bynnag, roedd hwylio rownd yr Horn yn beryglus iawn am fod y gwynt o'r gorllewin yn cryf iawn a'r tonnau yn uchel ac felly roedd pawb yn ei ofni, yn bennaf pan yn mynd o'r dwyrain i'r gorllewin. Roedd llawer o longau yn hwylio trwy Gulfor Magellan i'r gogledd, rhwng ynysoedd Tierra del Fuego a'r tir mawr, i osgoi'r Horn, ond roedd hwylio trwy'r culfor yn cymryd llawer mwy o amser.