Yr iaith Sgoteg yng Ngweriniaeth Iwerddon
Presenoldeb bychan ond pwysig sydd gan yr iaith Sgoteg yng Ngweriniaeth Iwerddon. Fe'i siaredir yn bennaf yn ardal y Laggan ger tref Raphoe, yn nwyrain Swydd Donegal yn nhalaith Ulster.[1] Er bod y mwyafrif helaeth o siaradwyr Sgoteg ynys Iwerddon yn byw dros y ffin wleidyddol yng Ngogledd Iwerddon, sydd yn rhan o'r Deyrnas Unedig, mae Donegal yn un o gadarnleoedd cryfaf yr iaith.[2]
Yn 1999, amcangyfrifiwyd bod 10,000 o drigolion Swydd Donegal yn medru'r iaith.[3] Un o dafodieithoedd Sgoteg Ulster a siaredir ganddynt, ac maent yn ei alw'n Scots neu Braid Scots[4] tra bo siaradwyr tafodieithoedd eraill yng Ulster fel arfer yn galw eu hiaith eu hunain yn Ullans neu Ulstèr-Scotch. Gellir ystyried ardal y Laggan yn Donegal a gogledd-orllewin Swydd Tyrone yn un ardal ieithyddol, ac yn un o'r pedair ardal ar wahân o dafodieithoedd Sgoteg Ulster ar ynys Iwerddon, ynghyd â gogledd Swydd Down, dwyrain a chanolbarth Swydd Antrim, a gogledd Antrim a gogledd-ddwyrain Swydd Derry.[5]
Cefnogir yr iaith yng Ngweriniaeth Iwerddon gan yr Asiantaeth Sgoteg Ulster, corff trawsffiniol sydd hefyd yn hyrwyddo'r Sgoteg yng Ngogledd Iwerddon.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Liam Logan, "The Irish Ulster Scot", Études Irlandaises 38: 2 (2013), tt. 161–167. Adalwyd ar 28 Hydref 2018.
- ↑ (Saesneg) Conal Gillespie, "Ulster-Scots: View from Donegal", Ullans 7 (gaeaf 1999). Adalwyd ar 28 Hydref 2018.
- ↑ (Saesneg) "Ireland: Languages", Ethnologue. Adalwyd ar 28 Hydref 2018.
- ↑ (Saesneg) "Ulster-Scots - the Language of the Laggan", Ask about Ireland. Adalwyd ar 28 Hydref 2018.
- ↑ (Saesneg) Philip Robinson, "The Mapping of Ulster-Scots", Ulster-Scots Academy. Adalwyd ar 28 Hydref 2018.