Ysbryd Perthynol (cerflun)

cerflyn yn yr Iwerddon

Mae Ysbryd Perthynol (en: Kindred Spirits) yn gerflun dur awyr agored mawr ym Mharc Bailic yn Midleton, Iwerddon, sy'n cofio haelioni Cenedl Choctaw, cenedl gynhenid Americanaidd, i bobl Iwerddon ar adeg An Gorta Mór .

Ysbryd Perthynol (cerflun)
Mathcerflun Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 2017 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Cyfesurynnau51.9061°N 8.1748°W Edit this on Wikidata
Map
Deunydddur gwrthstaen Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Y Choctaw

golygu

Mae'r Choctaw yn bobl frodorol Americanaidd, yn wreiddiol o dde ddwyrain Unol Daleithiau America; Mississippi, Florida, Alabama, a Louisiana bellach. Ym 1831 gorfodwyd y Choctaw o'u tiroedd cynhenid i'r hyn a elwir bellach yn Oklahoma ar ymdaith a elwir yn Llwybr Dagrau. Gan newynu, rhewi a salwch ar y daith bu llawer ohonynt farw; o'r 21,000 Choctaw a ddechreuodd y daith, bu mwy na hanner farw o oerfel, diffyg maeth, a chlefyd.

An Gorta Mór

golygu

Yng ngwanwyn 1845, dechreuodd y malltod tatws yn Iwerddon. Erbyn 1847, roedd llawer o drigolion Iwerddon wedi marw o lwgu. Dim ond tatws ganiataodd awdurdodau Prydain i'r Gwyddelod cadw at eu maeth eu hunain, allforiwyd holl gynnyrch arall y tir i Brydain a'i hymerodraeth. Pan fu'r cnwd tatws methu bu'r Gwyddelod marw. Collodd Iwerddon hanner ei boblogaeth trwy lwgu neu ymfudo.[1]

(Prif erthygl Newyn Mawr Iwerddon)

Haelioni'r Choctaw

golygu

Wedi eu cyffwrdd gan newyddion o newyn yn Iwerddon, casglodd grŵp o bobl Choctaw yn Oklahoma $170, (gwerth tua $4,300 / £3,000 yn 2016) [2] o'u hadnoddau prin a'i gyfrannu i elusen i gefnogi'r newynog. Efallai bod cydymdeimlad y brodorion Americanaidd yn deillio o gydnabod y tebygrwydd rhwng profiadau'r Gwyddelod a'r Choctaw. Yn sicr dyna farn y Choctaw gyfoes. Maent yn nodi bod y ddau grŵp yn ddioddefwyr o goncwest a arweiniodd at golli eiddo, mudo gorfodol, newyn torfol, alltud, ac atal diwylliannol (yn fwyaf nodedig lladd iaith brodorol).[3]

Y Cerflyn

golygu

Cafodd y cerflun ei greu gan Alex Pentek yn y Ffatri Cerflun Corc, a'i osod ym Mharc Bailic yn 2015.

Mae'r cerflun yn darlunio naw pluen eryr dur 20 troedfedd (6.1 m) o uchder wedi eu trefnu mewn cylch i gynrychioli powlen wag symbolaidd o'r newynog yn Iwerddon a'r plu eryr a ddefnyddir mewn defodau seremonïol Choctaw.[4]

Cyfeiriadau

golygu