Ysbyty Dolgellau ac Abermaw

ysbyty yn Nolgellau

Mae Ysbyty Ardal Dolgellau ac Abermaw yn ysbyty yn Nolgellau Gwynedd. Mae'n ysbyty Gwasanaeth Iechyd Gwladol o dan reolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Ysbyty Dolgellau ac Abermaw
Mathysbyty, adeilad ysbyty Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1929 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadDolgellau Edit this on Wikidata
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr30.6 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.740815°N 3.881922°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganBwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïoly Mudiad Celf a Chrefft Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Manylion

Ym 1902 cynigiodd Mr R. E. Ll. Richards o ystâd Caerynwch y dylid creu gronfa i godi ysbyty yn Nolgellau i nodi coroni Edward VII yn Frenin, cytunwyd ar y syniad ac aed ati i ddechrau codi arian.[1] O herwydd anghydfod parthed pwy ddylid talu am gostau codi a chynnal yr ysbyty, trethdalwyr Dolgellau yn unig neu drethdalwyr Dolgellau a'r cymunedau cyfagos [2] bu oedi ar y cynlluniau. Achosodd y Rhyfel Byd Cyntaf oedi pellach.

Wedi'r rhyfel penderfynwyd troi rhan o wyrcws Undeb Tlodi Dolgellau a'r Bermo i ysbyty bwthyn lleol gan setlo'r cwestiwn bod y gost i'w rannu gan holl gymunedau'r undeb. Agorwyd yr ysbyty ym 1920. Ym 1921 bu farw John Robert Douthwate, marsiandwr cefnog o swydd Gaerhirfryn a oedd wedi ymddeol i Aberdyfi.[3] Penderfynodd ei wraig, Sarah Elisabeth, i gynnig rhodd o £2,000 i wella'r ddarpariaeth ysbyty er cof amdano. Rhoddwyd tir ar gyfer y prosiect gan y Cyrnol a Mrs Enthoven, Doluwcheogryd, Llanelltyd.

Cynlluniwyd yr adeilad newydd gan y penseiri Herbert Luck North a Henry Harold Hughes. Gosodwyd y cerrig sylfaen gan Mrs Enthoven a Mrs Douthwait ym 1928 ac agorwyd yr ysbyty ym 1929. Fe'i hehangwyd ym 1933 ac eto ym 1938 eto ar gynlluniau gan North a Hughes. Bu ehangu pellach dros y blynyddoedd gan geisio cadw'n driw i'r cynlluniau gwreiddiol. Mae'r adeilad ar Ffordd Wern Las. Mae'n sefyll ar fryncir sy'n edrych dros y dref i'r de-orllewin o adran uwchradd Ysgol Bro Idris (Ysgol y Gader gynt). Mae'r ysbyty yn Adeilad Rhestredig gradd II

Arddull

golygu

Mae'r ysbyty wedi ei adeiladu yn yr arddull celf a chrefft, sy'n nodweddiadol o waith North a Hughes, gyda thoeau ar onglau serth gydag amrywiaeth o dalcenni a dormerau cribog gyda llechi wedi'u gosod ar gyrsiau sy'n lleihau.[4] Roedd y fynedfa urddasol wreiddiol (sydd dal i'w weld) yn codi o risiau a thrwy fwa Gothig sy'n nodweddiadol o North, wedi'i leinio â brics porffor i wrthgyferbynnu a waliau gwyn garw gweddill yr adeilad.[5] Roedd y ffenestri gwreiddiol yn gasmentau metel nodweddiadol o waith Hughes, wedi eu meintioli'n ofalus i gyd fynd a swyddogaeth ystafell, cyfeiriadedd ac ymddangosiad allanol. Mae'r rhan fwyaf o'r ffenestri gwreiddiol wedi eu cyfnewid am rai mwy addas i ysbyty gweithredol, ond mae ambell un o'r rhai gwreiddiol i'w gweld o hyd mewn ystafelloedd storio nwyddau ac ati. Er bod yr arddull celf a chrefft yn amlwg mae'r cynllun hefyd yn talu gwrogaeth i bensaernïaeth draddodiadol Dolgellau. Gwelir hyn yn fwyaf trawiadol yn ffenestr y theatr llawdriniaeth. Mae prif ffenest y theatr wedi cael ei gynllunio o un paen enfawr (yn ei ddydd) o wydr i ganiatáu'r golau naturiol gorau i gynorthwyo gwaith y llawfeddyg. Er bod y ffenestr yn enfawr mae wedi ei osod mewn cynllun sy'n adlewyrchu ffenestri to bychan sydd i'w gweld ar nifer o fythynnod y dref.

Defnydd clinigol

golygu

Yn ei ddyddiau cynnar roedd yr ysbyty yn cynnwys dwy ward cyhoeddus y naill i ferched a'r llall i ddynion, yn ogystal â dwy ward breifat. Roedd llawr uchaf yr adeilad yn cynnwys ward mamolaeth. Roedd gan yr ysbyty ystafell anaestheteg, offer pelydr-x a theatr llawdriniaeth. Ym 1937 rhoddodd Cyrnol a Mrs Enthoven yr arian cawsant gan gyfeillion i ddathlu eu Priodas Arian yn rhodd i'r ysbyty er mwyn adeiladu ward plant.[6]

Wedi peth newid yn y ddarpariaeth dros y blynyddoedd mae'r ysbyty yn parhau i gynnig gofal iechyd i bobl yr ardal gan ddarparu:

  • 24 gwely.
  • Uned mân anafiadau
  • Uned ffisiotherapi
  • Uned therapi galwedigaethol
  • Therapi iaith
  • Dietetegydd
  • Uned i'r henoed eiddil eu meddwl
  • Uned mamolaeth
  • Adran cleifion allanol
  • Offer pelydr-X

Mae gofal yn cael ei ddarparu gan staff nyrsio, meddygon ymgynghorol a meddygon teulu gan gynnwys gwasanaeth tu allan i oriau'r meddygon teulu.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "DOLGELLEY - Towyn-on-Sea and Merioneth County Times". Samuel Slater and David Rowlands. 1902-08-21. Cyrchwyd 2019-06-18.
  2. "DOLGELLEY - Welsh Gazette and West Wales Advertiser". George Rees. 1906-06-21. Cyrchwyd 2019-06-18.
  3. Probate Registry. Calendar of the Grants of Probate and Letters of Administration made in the Probate Registries of the High Court of Justice in England. London, England © Crown copyright. Ewyllys John Robert Douthwaite Profwyd 21 Mai 1921
  4. British Listed Buildings
  5. Coflein adalwyd 19 Mehefin 2019
  6. Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - Ysbyty Dolgellau adalwyd 19 Mehefin 2019