Herbert Luck North
Pensaer arloesol o Gymro sy'n gysylltiedig â'r mudiad Celf a Chrefft oedd Herbert Luck North (1871 – 9 Chwefror 1941). Roedd yn frodor o bentref Llanfairfechan, sir Conwy.
Herbert Luck North | |
---|---|
Ganwyd | 1871 Caerlŷr |
Bu farw | 9 Chwefror 1941 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | pensaer, llenor |
Bywgraffiad
golyguCafodd Herbert L. North ei addysg yn Ysgol Uppingham (yn Uppingham, Rutland) a Choleg yr Iesu, Caergrawnt. Derbynwyd North yn aelod o'r F.R.I.B.A a threuliodd gyfnod yn cynorthwyo Syr Edwin Lutyens cyn ffurfio partneriaeth o benseiri yn Llundain. Ar droad yr 20g dychwelodd i ogledd Cymru i fyw yn Llanfairfechan.
Cynlluniodd sawl tŷ yn The Close, ystad agored anffurfiol o dai a ddylunwyd ganddo uwchben Llanfairfechan, yn cynnwys y Wern Isaf, a ddylunodd ac adeiladodd yn 1900 yn gartref iddo fo ei hun. Mae dyluniad y tŷ wedi ei ddylanwadu gan yr arddull Celf a Chrefft, gyda'r ystafelloedd yn agor i'w gilydd.
Daeth North yn gyfaill mawr i bensaer lleol arall, Henry Harold Hughes. Roedd gan y ddau ddidordeb mawr ym mhensaernïaeth hen eglwysi a bythynod traddodiadol Eryri a'r cylch. Ffrwyth eu cyfeillgarwch oedd y ddwy gyfrol The Old Cottages of Snowdonia (1908) a The Old Churches of Snowdonia (1924). Cyhoeddodd North astudiaeth fwy lleol o eglwysi Arllechwedd hefyd.
Ymhlith yr enghreifftiau o waith pensaernïol Herbert L. North yng ngogledd Cymru, ar wahân i ystad The Close, gellid nodi adeiladau ysgol Gyffin a Caerhun yn Nyffryn Conwy ac Ysbyty Dolgellau.
Bu farw Herbert L. North yn 1941, blwyddyn yn unig ar ôl H. Harold Hughes, a'i claddu yn y beddrod teuluol yn Eglwys Llanfairfechan.
Cyfeiriadau
golygu- Adargraffiad 1984 o The Old Churches of Snowdonia, nodyn ar yr awduron.
Llyfryddiaeth
golygu- The Old Churches of Arllechwedd (1906)
Gyda H. Harold Hughes:
- The Old Cottages of Snowdonia (Bangor, 1908)
- The Old Churches of Snowdonia (Bangor, 1924). Adargraffwyd gan Gymdeithas Parc Cenedlaethol Eryri, Capel Curig, 1984.