Ysgol gynradd Nantlle, Gwynedd, yw Ysgol Baladeulyn. Mae'r ysgol yn nhalgylch Dyffryn Nantlle. Roedd yr ysgol ar y rhestr o ysgolion i'w cau a gyhoeddwyd ar 19 Hydref 2007.[1] Mae rhieni disgyblion yr ysgol yn ymgyrchu yn erbyn y cynlluniau i'w chau. Roedd 27 disgybl yn yr ysgol ym mis Hydref 2007.[2] Roedd 33 disgybl yn yr ysgol y flwyddyn gynt, gyda'r niferoedd yn weddol cysod drost y tair blynedd cynt yn ogystal.[3] Ond nid yw hyn ddim llai nag yn ystod yr 1980au, roedd 24 o ddisgyblion yn llun yr ysgol ym 1986.[4]

Ysgol Baladeulyn, llun gan Eric Jones

Cymraeg yw prif iaith yr aelwyd i 70% o’r disgyblion, ond mae’r disgyblion i gyd yn rhugl yn y Gymraeg.[3] Mae'r canran hwn wedi gostwng drost y degawdau, yn bennaf oherwydd mewnfudwyr o Lerpwl yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac o phob gwr o Brydain ers hynny.[5]

Ffynonellau

golygu
  1.  Gwynedd: Rhestr cau. BBC (19 Hydref 2007).
  2.  Cau 29 ysgol: Rhieni 'i frwydro'. BBC (20 Hydref 2007).
  3. 3.0 3.1  Adroddiad 2006. ESTYN (7 Awst 2006).
  4. Llun swyddogol yr ysgol, 1986.
  5.  Adolygiad Iaith: Help yn ei chadarnle?. BBC (24 Mehefin 2002).
  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.