Nantlle

pentref yng Ngwynedd

Pentref yn Nyffryn Nantlle, Gwynedd yw Nantlle ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif ar y ffordd B4418 rhwng Talysarn a Rhyd Ddu.

Nantlle
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlanllyfni Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.0569°N 4.225°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH509534 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Map

Tyfodd pentref Nantlle fel pentref i'r gweithwyr yn y chwareli llechi cyfagos, ac mae olion y chwareli hynny i'w gweld ymhobman o gwmpas y pentref, yn enwedig i'r gogledd. I'r de o'r pentref mae Llyn Nantlle Uchaf, sydd ag Afon Drws-y-coed yn llifo i mewn iddo ac Afon Llyfni yn tarddu ohono.

Cyfeirir at nifer o leoedd yn ardal Nantlle ym mhedwaredd gainc y Mabinogi, chwedl Math fab Mathonwy. Dywedir fod y gair "Nantlle" ei hun yn dod o "Nant Lleu".

Ysgol Baladeulyn, Nantlle.
Rhes o dai yn y pentref.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[2]

Ar un adeg roedd dau lyn yma, fel y gwelir yn yr enw "Baladeulyn". Gyda datblygiad y chwareli fe wacawyd y dŵr o'r llyn arall, Llyn Nantlle Isaf, a newidiwyd cwrs Afon Llyfni. Yn ffermdy Talymignedd Uchaf gerllaw'r pentref y ganwyd Margaret Evans, "Marged Fwyn Uch Ifan" (ferch Ifan), sy'n cael ei choffáu yn y pennill:

Mae gan Marged fwyn Uch Ifan
Delyn fawr a thelyn fechan;
Un i ganu'n nhre Caernarfon
A'r llall i gadw'r gŵr yn fodlon.

Lleolir Ysgol Baladeulyn yn y pentref. Mae papur bro Lleu yn gwasanaethu Nantlle.

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu

Hanes Nantlle o Wefan Dyffryn Nantlle