Ysgol Bro Famau, Llanferres a Llanarmon
Ysgol ddwyieithog, gwledig yn Sir Ddinbych ydy Ysgol Bro Famau. Yn Nhachwedd 2012 roedd 93 o blant yn yr ysgol a 42 o lefydd gweigion. Cyhoeddodd Cyngor Sir Ddinbych eu bwriad i aildrefnu addysg yn y cylch.[1]
Mae'r ysgol ar ddwy safle: Llanarmon-yn-Iâl a Llanferres a daw disgyblion i'r ysgol o gymunedau Eryrys, Graianrhyd, Maeshafn a Thafarn-Y-Gelyn. Saif yn nhalgylch Ysgol Brynhyfryd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Denbighshire Free Press; cyhoeddwyd 21 Tachwedd 2012