Llanarmon-yn-Iâl

pentref yn Sir Ddinbych

Pentref a chymuned yn Sir Ddinbych yw Llanarmon-yn-Iâl("Cymorth – Sain" ynganiad ) (Llanarmon ar lafar yn lleol). Saif ar y ffordd B5431, gerllaw'r gyffordd a'r B5430, i'r dwyrain o dref Rhuthun a chwe milltir i'r de o'r Wyddgrug. Llifa Afon Alun heibio'r pentref, ac mae Llwybr Clawdd Offa rhyw filltir a hanner i'r gorllewin.

Llanarmon-yn-Iâl
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,062 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd2,785.25 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.0965°N 3.2114°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000157 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auDarren Millar (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Jones (Ceidwadwr)
Map

Yn ogystal â Llanarmon ei hun, mae'r gymunedd yn cynnwys pentrefi llai Eryrys a Graeanrhyd.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Darren Millar (Ceidwadwyr) a'r Aelod Seneddol yw David Jones (Ceidwadwr).[1][2]

Hanes a henebion golygu

 
Eglwys Llanarmon-yn-Iâl

Cysegrwyd yr eglwys, sy'n dyddio o'r 14g, i Sant Garmon; dyma ganolfan eglwysig draddodiadol cwmwd Iâl, yn nheyrnas Powys (Powys Fadog).

Ar gwr y pentref ceir Tomen y Faerdre, amddiffynfa o'r 12g.

Mewn ogof yma ceir un o'r ychydig olion yng Nghymru sy'n dyddio yn ôl tua 10,000 o flynyddoedd i'r cyfnod Mesolithig (sef Oes Ganol y Cerrig).

Pobl o'r gymuned golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato