Eryrys

pentref yn Sir Ddinbych

Pentref a phlwyf yn Sir Ddinbych yw Eryrys("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif bum milltir i'r de o dref yr Wyddgrug ac ychydig i'r gogledd-ddwyrain o bentref Llanarmon-yn-Iâl ar fryn carreg galch Bryn Alyn (Cyfeirinod grid OS: SJ203578). Mae'r pentref 350m uwch lefel y môr, ac yn un o'r cystadleuwyr am y teitl o fod yn bentref uchaf Cymru, sef 1,123 troedfedd.[1] Y ddau arall yw: Bwlchgwyn, Wrecsam (335m) a Garn-yr-Erw, Torfaen (390m).[2] Saif ar ffin Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd.[3]

Eryrys
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.11°N 3.19°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ203578 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruKen Skates (Llafur)
AS/au y DUSimon Baynes (Ceidwadwyr)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Ken Skates (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Simon Baynes (Ceidwadwyr).[4][5]

Eglwys Dewi Sant

golygu

Canwyd cloch yr eglwys y tro diwethaf yn y 1970au pan drodd yn ganolfan gymdeithasol i'r pentref. Mae'r adeilad yn Radd II a rhoddwyd hi ar y gofrestr ar 29 Mai 1998 (Rhif Cofrest Cadw: 19921).

Crëwyd plwyf Eryrys yn 1861; cyn hynny roedd yr ardal yn rhan o blwyf Llanarmon-yn-Iâl. Dechreuwyd adeiladu'r eglwys a gysegrwyd i Ddewi Sant yn 1862.

Tarddiad yr enw

golygu

Ceir damcaniaeth fod yr enw'n deillio o "Erw Yrys" a gysylltir gydag "Hen Gyrys o Iâl" awdur casgliad o ddiharebion.

Diwydiant

golygu

Ceir sawl chwarel calchfaen yn agos i'r pentref a sawl ogof bwysig o gyfnod y cynfyd. Mae'r rhan fwyaf o'r chwareli wedi hen gau, ond mae un neu ddwy wedi allgyfeirio i ddeilio gyda sment.[6] Caewyd y rhan fwyaf o'r chwareli plwm yn y 19g. Tir pori ydy'r rhan fwyaf o'r tir o amgylch y pentref, defaid a gwartheg.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Gwefan Saesneg y BBC; adalwyd 19/07/2012". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-15. Cyrchwyd 2012-07-21.
  2. Ordnance Survey. "MapZone". Cyrchwyd 2007-03-04.
  3. Clwydian Range AONB; adalwyd 19 Medi 2014
  4. Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  5. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  6. Gwefan CPAT; adalwyd 19 Medi 2014