Ysgol Bro Siôn Cwilt


Ysgol gynradd gymunedol ddwyieithog yn Synod Inn, Ceredigion yw Ysgol Bro Siôn Cwilt.

Ysgol Bro Siôn Cwilt
Sefydlwyd 2010
Math Cynradd, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Cymraeg
Pennaeth Helen Hopkins
Lleoliad Pentre'r Bryn, ger Synod Inn, Ceredigion, Cymru, SA44 6JZ
AALl Cyngor Sir Ceredigion
Disgyblion 143
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 4–11

Sefydlwyd yr ysgol fel ei bod yn gallu gwasanaethu dalgylchoedd hen ysgolion Llanllwchaearn, Gwenlli ac Ysgol Gymunedol y Castell sydd bellach wedi cau. Costiodd £3,383,000, ac ariannwyd gan Grant Rhaglen Gyfalaf i Gyngor Sir Ceredigion gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.[1][2]

Agorwyd yr ysgol ym mis Ionawr 2010, gyda agoriad swyddogol ar 16 Ebrill.[3]

Cododd niferoedd disgyblion yr ysgol o 116 i 143 o fewn blwyddyn, gan orfodi Cylch Meithrin Bro Siôn Cwilt i geisio a canfod cartref newydd ar gyfer eu 34 o blant.[4]

Enwyd yr ysgol ar ôl bro'r smyglwr lleol, Siôn Cwilt (weithiau Siôn Sais).

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.